S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Con Passionate yn ennill Rhosyn Aur

10 Mai 2007

  Mae un o gyfresi drama mwyaf poblogaidd S4C, Con Passionate wedi ennill un o brif wobrau darlledu’r byd yng Ngŵyl Rose d’Or.

Enillodd y ddrama gyfres, a gynhyrchwyd gan Teledu Apollo ar gyfer S4C, wobr Rhosyn Aur y Rose d’Or yn y categori sebon/drama ysgafn mewn seremoni gofiadwy yn Lucerne, Y Swistir, neithiwr (Nos Fercher, 9 Mai).

Dyma’r ail wobr fawr i S4C ennill yr wythnos hon, yn dilyn y newyddion fod y Sianel wedi ennill y brif wobr Dylunio am ei phecyn ail-frandio yng nghynhadledd Connect Undeb Ddarlledu Ewrop (EBU) a gynhaliwyd hefyd yn Lucerne.

Roedd Con Passionate, sy’n dilyn hynt a helynt aelodau o gôr meibion Cymreig a’u harweinydd nwydus, Davina, a bortreadir gan Shân Cothi, yn un o 64 enwebiad ar y rhestr fer mewn gwahanol gategorïau allan o restr wreiddiol o 358 o geisiadau.

Fe wnaeth y gyfres - sydd â chast sy’n cynnwys Mark Lewis Jones, William Thomas, Beth Robert, Ifan Huw Dafydd, Steffan Rhodri a Philip Hughes - guro EastEnders a The Bill

a phedair rhaglen arall ar y rhestr fer i ennill y wobr.

Dyma’r wobr fwyaf eto i Con Passionate sydd eisoes wedi ennill yng Ngŵyl y Cyfryngau Celtaidd, BAFTA Cymru a dwy wobr Prix Europa.

Meddai’r awdur, Siwan Jones, sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar y gyfres olaf o Con Passionate, “Mae’n fraint fawr i ennill y wobr hon, o ystyried nifer ac ansawdd yr holl geisiadau o bob rhan o Ewrop. Efallai bod y ffaith mai cyfres am gôr meibion yw hi wedi taro nodyn gyda’r beirniaid. Mae’r gyfres wedi apelio at lawer o wylwyr yng Nghymru sydd ddim yn siarad Cymraeg, gan fod pobl yn medru cysylltu ag aelodau côr.”

Meddai Paul Jones, o Teledu Apollo a ymunodd yn ddiweddar â Grŵp Cwmnïau Boomerang, “Mae sgriptio Siwan Jones ar gyfer Con Passionate yn gosod y safon ar gyfer ysgrifennu i deledu ac mae’r wobr hon yn cydnabod hyn. Mae ei phortread modern a deinamig o gôr meibion yn chwalu’r stereoteip arferol o gorau.”

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae gwobr Rose d’Or yn cydnabod doniau ym myd teledu ar draws y byd, ac mae ennill y wobr yn gamp arbennig i bawb sy’n ymwneud â’r gyfres ar, ac oddi ar y sgrîn. Hoffai pawb yn S4C longyfarch tîm Con Passionate.”

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?