S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cipio gwobr ddylunio fawr

27 Mehefin 2008

   Mae S4C wedi ennill un o brif wobrau Gŵyl Hysbysebu Rhyngwladol Cannes Lions 2008.

Enillodd S4C y wobr arian yng nghategori Dylunio a Graffeg Darlledu am ei ffilmiau byrion arloesol ble mae gwahanol wrthrychau yn symud i gyfeiliant llais.

Mae’r deg ffilm fer 20 eiliad o hyd, sy’n ymddangos rhwng rhaglenni, yn cynnwys golygfeydd o bob cwr o Gymru. Mae’r gwrthrychau a welir yn y ffilmiau - boed yn oleuadau mewn siop fawr yng Nghaerdydd neu’n falŵns yn yr awyr - yn symud mewn ymateb i lais y cyhoeddwr.

Cyfarwyddwyd y ffilmiau byrion gan Luc Schurgers ac fe’u cynhyrchwyd gan Roger Whittlesea o Proud. Goruchwyliwyd y gwaith gan Dylan Griffith, cyn Gyfarwyddwr Creadigol S4C.

Gwylio ffilm fer 'Siop olau'

Gwylio ffilm fer 'Amgueddfa'

Gwylio ffilm fer 'Ffair'

Diwedd

Nodiadau i’r Golygydd

Mae delwedd brand newydd S4C, a lansiwyd yn Ionawr 2007, wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys:

1. Y wobr Total Package yng Nghategori Dylunio EBU Connect Awards 2007.

2. Categori Brand Cymreig yng Ngwobrau Dylunio Dwyieithog 2007 a drefnwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?