S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

ITV ac S4C yn cydweithio i Greu Gwasanaeth Rhaglenni Ar-lein Cymraeg

19 Tachwedd 2008

Mae ITV Cymru ac S4C wedi cyhoeddi lansiad ITV Local Cymru, gwefan Gymraeg ei hiaith sy'n llawn newyddion, materion cyfoes, erthyglau nodwedd a chynnwys archif.

Dros y 18 mis diwethaf mae ITV wedi sefydlu presenoldeb ar y we sy'n canolbwyntio ar ddarparu newyddion lleol a deunydd nodwedd ar hyd a lled tiriogaeth ddarlledu'r Cwmni. ITV Local Cymru yw'r elfen ddiweddaraf yn adnoddau ITV ac mae'n ychwanegiad unigryw at luosogrwydd ym maes newyddion a materion cyfoes yn yr iaith Gymraeg.

Mae'r gwasanaeth newydd ar y we yn adlewyrchu'r modd y mae S4C yn defnyddio'r we fel llwyfan cyfathrebu pwerus i ddosbarthu rhaglenni Cymraeg i'r gynulleidfa ehanga posibl.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Fel darlledwr cyhoeddus rydym yn falch iawn fod adnoddau rhaglenni yn yr iaith Gymraeg ar gael ar raddfa mor eang â phosibl. Mae'r prosiect yma hefyd yn adlewyrchu perthynas hir S4C gydag ITV Cymru a'i ragflaenwyr. Mewn cyfnod lle mae Ofcom yn mynd i'r afael â lluosogrwydd mewn darpariaeth cynnwys, mae'r adnodd newyddion a materion cyfoes hwn yn cynyddu gwerth y rhaglenni a gomisiynir gan S4C, sy'n derbyn incwm gan y Llywodraeth a ffynonellau masnachol, yn ogystal â derbyn rhaglenni gan y BBC.”

Meddai Ellis Owen, Cyfarwyddwr Cenedlaethol ITV Cymru, “Mae gan ITV Cymru a'i ragflaenwyr draddodiad hir o ddarlledu yn yr iaith Gymraeg. Bu'r bartneriaeth yn un agos rhyngom ni ac S4C ers iddi gael ei sefydlu, ac rydym yn falch o weld y bartneriaeth yn datblygu ymhellach yn ein gwasanaeth ar-lein. Fe fydd yn hwb i'n darpariaeth materion cyfoes ar gyfer S4C, ac mae'n gyfle euraidd i ailymweld â chlasuron yn ein harchif dros yr hanner can mlynedd diwethaf.”

Mae ITV ar hyn o bryd yn cynhyrchu oddeutu 35 awr o raglenni'r flwyddyn ar gyfer S4C, gan gynnwys y gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar a'r gyfres gylchgrawn amaethyddol Cefn Gwlad, yn ogystal â gwasanaeth tywydd S4C.

Bydd cynnwys ychwanegol ecsgliwsif sy'n gysylltiedig â'r rhaglenni yma ar gael ar y wefan, yn ogystal â fersiwn wedi ei ddiweddaru o Y Dydd, rhaglen newyddion Cymraeg a ddarlledwyd cyn sefydlu S4C. Bydd Y Dydd yn cynnig arlwy newyddion cyfredol a materion cyfoes.

Bydd y wefan hefyd yn rhoi cyfle i bobl fwynhau archif sy'n cynnwys 50 blynedd o raglenni yn yr iaith Gymraeg - gan gynnwys llawer o gyfresi cynnar pwysig ym maes darlledu Cymraeg - a gynhyrchwyd gan ITV a'i ragflaenwyr.

Bydd clasuron plant fel Miri Mawr, Calimero a Ffalabalam ymysg y rhaglenni archif fydd ar gael, yn ogystal â chyfresi ffeithiol fel y gyfres arloesol Bywyd, a gyflwynwyd gan y diweddar ddarlledwr Gwyn Erfyl.

Diwedd

Nodiadau i'r Golygydd:

CYNNWYS ITV LOCAL CYMRU:

Y DYDD

Y gohebwyr ITV Cymru Gwyn Loader a Lisa Haf fydd yn cyflwyno Y Dydd, sy'n rhoi bywyd o'r newydd i raglen newyddion Cymraeg HTV Cymru, a ddarlledwyd cyn sefydlu S4C. Bu nifer o'n darlledwyr mwyaf cyfarwydd yn cyflwyno Y Dydd, gan gynnwys Huw Llywelyn Davies, Vaughan Hughes, Elinor Jones a Tweli Griffiths. Bydd straeon newyddion ac adroddiadau arbennig yn cael eu diweddaru bob wythnos gan ohebwyr ITV Local Cymru ar Y Dydd, a fydd hefyd yn tynnu sylw at gynnwys diweddaraf y wefan. Yn ystod wythnos y lansiad, bydd adran Y Dydd yn cynnwys blogiau, erthyglau nodwedd gan dîm Tywydd S4C, newyddion ac erthyglau nodwedd, y straeon diweddaraf o'r Cynulliad, darlleniadau gan feirdd ifanc Cymru ac out-takes gan rai o wynebau mwyaf cyfarwydd y byd teledu.

BYDD YR UCHAFBWYNTIAU ARCHIF AR ADEG Y LANSIAD YN CYNNWYS:

Pobol y Chyff

Yn rhaglen gyntaf y gyfres wreiddiol, a gynhyrchwyd 15 blynedd yn ôl, bydd Meirion Davies a Rhys Ifans, a ymddangosodd gyda Julia Roberts yn y ffilm Notting Hill, yn ymuno â Dai Jones a Cleo Rocos.

Kate

Rhifyn arbennig o'i gyfres Bywyd pan wnaeth Gwyn Erfyl gyfweld â 'Brenhines ein Llen', yr awdures Kate Roberts.

Myfanwy

Myfanwy Howell, cyflwynydd eiconig o ddyddiau cynnar teledu annibynnol yng Nghymru, sy'n cwrdd â thrigolion Cei Newydd yn y 1950au hwyr.

Miri Mawr

Ymunwch â Caleb a Blodyn Tatws am fwy o hwyl a sbri wrth i ogof y Miri Mawr agor unwaith yn rhagor.

Calimero

Y cyw bach fu'n gwmni i lawer ohonom pan oeddem yn blant!

Cyfle Byw

Ydych chi'n adnabod unrhyw un o'r sioe yma o ddechrau'r 1990au?

Y TYWYDD A MWY

Golwg tu ôl i'r llenni ar sut mae bwletinau tywydd yn cael eu cynhyrchu, yng nghwmni Chris Jones, Erin Roberts a Mari Grug.

BLOG

Tri glas fyfyriwr o brifysgolion Cymru sy'n amlinellu beth yw eu gobeithion a'u huchelgais wrth iddyn nhw ddechrau ar fywyd yn y brifysgol.

CYNULLIAD

Y newyddion diweddaraf o'r Cynulliad gyda'n dyn ni lawr yn y Bae, Gareth Hughes.

CRIW Y CRAP

Mwy o farddoniaeth gan rai o feirdd mwyaf talentog Cymru.

O DIAR!

Casgliad o out-takes doniol gan rai o wynebau mwyaf cyfarwydd y sgrin fach.

Y BYD AR BEDWAR

Gohebwyr Y Byd ar Bedwar sy'n siarad am eu profiadau nhw tu ôl i'r camera. Eifion Glyn sy'n siarad am y peryglon o ffilmio'n gyfrinachol yn Zimbabwe, a'i argraffiad cyntaf o Morgan Tsvangirai yn dilyn ei gyfweliad diweddar ag ef. Bydd Tweli Griffiths yn disgrifio'r profiad o gwrdd â Colonel Gaddafi, cyfweliad a welir yn un o raglenni archif Y Byd ar Bedwar.

Bydd cyfle i wylio'r rhaglenni uchod yn llawn ar y wefan, yn ogystal â rhifyn arbennig o uchafbwyntiau Y Byd ar Bedwar dros gyfnod o 20 blynedd, a wnaed yn 2002.

HACIO

Cyfweliadau tu ôl i'r llenni gyda'r cyflwynwyr, a detholiad o raglenni o gyfresi diweddar, gan gynnwys Hacio 300, sy'n dathlu rhai o'r uchafbwyntiau mwyaf cofiadwy o'r 300 pennod o'r gyfres. Bydd mwy am y rhaglen ddiweddaraf sy'n trin a thrafod cau Theatr Gwynedd, a bydd Gwyn Loader yn sôn am greu'r rhaglen sy'n edrych ar effaith sŵn uchel cerddoriaeth ar glyw pobl ifanc.

CEFN GWLAD

Beth sydd gan Dai Jones ar ein cyfer yn y gyfres nesaf? Cyfle arall i fwynhau rhai o raglenni diweddaraf y gyfres, yn ogystal â rhai o benodau cynnar Cefn Gwlad, a ddarlledwyd dros 25 mlynedd yn ôl.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?