S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

WawFfactor – Llwybr Llwyddiant

21 Chwefror 2008

  “Fy uchelgais, yn fwy nag erioed, yw llwyddo fel cantores!”

Dyma ddywedodd Duffy ar ôl iddi ddod yn ail agos yn y gyfres gyntaf o sioe dalent S4C, WawFfactor, nôl yn 2004. Bellach, a hithau’n dathlu ar ôl cyrraedd y brig yn y siartiau Prydeinig gyda’r gân Mercy, mae S4C yn hynod falch i'w llongyfarch ar ei llwyddiant.

Gydag disgwyl mawr am ei halbwm newydd, Rockferry, allan ar 3 Mawrth, mae 'na gyffro am y ferch ifanc o Nefyn â'r llais unigryw.

SÊR ERAILL WAWFFACTOR YN CYRRAEDD Y BRIG

Nid Duffy yw'r unig un i ddatblygu gyrfa yn dilyn ei llwyddiant yn y gyfres boblogaidd. Mae Lisa Pedrick, enillydd cyfres 2003, yn cyfansoddi yn ddiwyd. Bydd EP newydd o'i gwaith yn cael ei ryddhau'n fuan, gyda chaneuon wedi eu cyfansoddi ar ei chyfer gan Cerys Matthews a Steve Balsamo ymhlith eraill. Mae hi wedi datblygu sain mwy 'roots', gyda phwyslais ar y sŵn byw.

Bu Rebecca Trehearn, enillydd 2005, yn byw yn Llundain, ac mae hi wedi gweithio mewn theatr gerddorol yn dilyn ei buddugoliaeth hi, gan gynnwys cynhyrchiad llwyfan o Alfie. Ar hyn o bryd, mae’n perfformio yn y sioe gerdd ysgubol o lwyddiannus yn y West End yn Llundain, We Will Rock You. Mae hi hefyd yn dal i gyfansoddi caneuon.

Yn ogystal, mae Aimee Ffion Edwards, a ddaeth yn ail yng nghyfres WawFfactor 2006, yn chwarae rhan cymeriad Sketch yn Skins ar E4. Mae Einir Dafydd, enillydd 2006, yn enw cyfarwydd yn y byd cerdd yng Nghymru. Mae hi'n dal i ganu, recordio a chyfansoddi caneuon, a hi oedd enillydd Cân i Gymru 2007. Bydd Einir yn un o banel beirniadu'r gystadleuaeth ar gyfer eleni, sydd i’w gweld ar S4C am 8.00pm ar 29 Chwefror.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?