S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Robin McBryde i Agor Clwb Rygbi Newydd Cwmderi

11 Ionawr 2008

Cyn-chwaraewr rygbi'r Sgarlets a chyn fachwr Cymru, Robin McBryde yw'r seren ddiweddaraf i ymweld â Chwmderi yn rhifyn heno (Ionawr 11) o Pobol y Cwm.

Bydd hyfforddwr blaenwyr tîm rygbi Cymru yn ymddangos yn y gyfres ddrama fel y seleb cudd sydd wedi ei wahodd i agoriad mawreddog "Y Clwb" - cartref newydd Clwb Rygbi Cwmderi.

Bydd Robin, sy'n dod yn wreiddiol o Borthaethwy, yn lansio'r dathliadau wrth chwythu'r chwiban ar ddechrau'r gêm rhwng tîm rygbi Cwmderi a phymtheg "Gweddill y Byd." Bydd gofyn i'r cawr, sydd wedi ennill teitl 'Y Cymro Cryfa', wahanu ffeit hefyd wed'r gêm, wrth i ddadl droi'n ymrafael mewn derbyniad yn y Clwb.

Roedd Robin eisoes yn adnabod Gwyn Elfyn, sy’n chwarae rhan Denzil, gan fod y ddau ynghlwm â Chlwb Rygbi'r Tymbl. Ond roedd y broses ffilmio yn agoriad llygad i'r chwaraewyr sydd wedi ennill 37 cap i Gymru.

"Roedd o'n gipolwg rhyfeddol ar fyd yr opera sebon," dywed Robin a fydd hefyd yn ymddangos ar S4C ym mis Chwefror yn gapten côr Gogledd Cymru yn y gystadleuaeth Codi Canu. "Dydach chi ddim yn sylweddoli faint o waith sydd ynghlwm â'r ffilmio a faint o amser mae’n ei gymryd i ffilmio golygfa fer - mae'n rhyfeddol.

"Pan wnaethon ni ffilmio roedd hi'n ddiwrnod arbennig o oer ond yn ffodus doedd dim rhaid i fi wisgo shorts rygbi fel rhai o'r criw. Roedd pawb yn gyfeillgar iawn ac roeddwn i'n teimlo'n gartrefol iawn."

"Roedd Robin yn seren berffaith ar gyfer y rôl," dywed y cynhyrchydd Eirlys Hatcher. "Mae ganddo broffil uchel ym myd rygbi rhyngwladol, mae'n byw yn y Tymbl sy'n agos iawn i leoliad daearyddol Cwmderi ynghanol Cwm Gwendraeth ac mae hefyd yn seleb a oedd yn cyd-dynnu’n dda â gweddill y cymeriadau.

"Fe wnaeth e gymryd y rôl o ddifri, ei pherfformio hi'n dda ac roedd yn bleser i weithio gydag ef. Gobeithio bydd ein cynulleidfa'n cytuno ei fod yn ddewis arbennig!"

Mae Robin yn dilyn ôl troed chwaraewyr rygbi eraill sydd wedi ymddangos ar y gyfres, gan gynnwys ei ffrind - y diweddar Ray Gravell - Silio Martens o Tonga heb sôn am Glyn Wise, cyflwynydd C2 ac Imogen Thomas o Big Brother.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?