S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffilm Beryl yn cael enwebiad arall

11 Chwefror 2008

Mae ffilm ddiweddaraf Joanna Quinn am yr arwres liwgar ganol oed Beryl wedi derbyn enwebiad ar gyfer Gwobr Animeiddio Brydeinig y BAA (British Animation Award).

Mae Beryl, Y Briodas a’r Fideo (Dreams and Desires – Family Ties), sy’n

gyd-gynhyrchiad rhwng S4C a chwmni Joanna, Beryl Productions International, eisoes wedi ennill llu o wobrau, gan gynnwys un o wobrau mwyaf y diwydiant animeiddio, gwobr Cartoon D’Or.

Fe enwebwyd y ffilm yn adran Gwobr Crefft seremoni’r BAA i’w chynnal ar 13 Mawrth ac mae’r enwebiad yn gryn hwb i’r ffilm ddeng munud o hyd a gynhyrchwyd gan animeiddiwraig sydd wedi derbyn dau enwebiad Oscar.

Yn yr adran Grefft, a noddir gan Tandem Films, bydd Beryl, Y Briodas a’r Fideo yn brwydro am y wobr gyntaf yn erbyn The Pearce Sisters, a gyfarwyddwyd gan Luis Cook a’i chynhyrchu gan Aardman Animations; ac Adjustment, a gyfarwyddwyd gan Ian Mackinnon a’i chynhyrchu gan The Royal College of Art.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydym yn falch iawn bod y cynhyrchiad rhagorol hwn wedi’i enwebu ar gyfer seremoni Gwobrau Animeiddio Prydain. Mae Beryl, Y Briodas a’r Fideo yn ffilm sydd wedi gafael yn nychymyg dilynwyr animeiddio ledled y byd ac fe adlewyrchir hyn yn nifer y gwobrau mae’r ffilm wedi’u hennill. Mae S4C yn falch iawn ei bod yn cefnogi animeiddiad o’r fath safon sydd wedi ei greu a’i gynhyrchu yng Nghymru.”

Diwedd

Nodiadau’r golygydd:

1. Dyma’r drydedd ffilm am Beryl, y fam a’r wraig rwystredig ac eto optimistaidd sydd yn barod i gofleidio newid nawr bod y plant wedi tyfu a hedfan y nyth. Yn y ffilm, mae Beryl yn mynychu priodas ffrind i’r teulu ac yn penderfynu ffilmio’r holl ddigwyddiad. Mae’r cyfan yn troi’n draed moch pan mae brwdfrydedd sinematig ac arddull dyddiadur fideo Beryl yn mynd yn groes i ddisgwyliadau’r bobl yn y briodas.

2. Mae’r ffilm eisoes wedi ennill 25 o wobrau gwahanol gan gynnwys Ffilm Orau Cartoon D’Or Ewrop, Fforwm Gartŵn Pau, Ffrainc, Gwobr y Gynulleidfa - Gŵyl Ffilm Annecy Ffrainc. Gŵyl Ffilm Grand Prix, Zagreb, AniFest Croatia; Ffilm Fer Orau Grand Prix a Gŵyl Animeiddio Ryngwladol, Shanghai, China.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?