S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Nadolig ar S4C... yng Nghymru

12 Rhagfyr 2008

   Dangosiad teledu cyntaf ffilm animeiddiedig yn Gymraeg wedi ei seilio ar glasur, Dylan Thomas, A Child’s Christmas in Wales, yw un o uchafbwyntiau amserlen liwgar a chyffrous S4C y Nadolig hwn.

Matthew Rhys, yr actor o Gaerdydd ac un o sêr y gyfres Americanaidd, Brothers & Sisters, sy’n cymryd rhan yr adroddwr yn Nadolig Plentyn yng Nghymru. Mae’r ffilm, a ddarlledir Noswyl Nadolig ar S4C, hefyd yn cynnwys perfformiadau gan y côr Only Men Aloud a Gwion Jones, enillydd y gystadleuaeth deledu, I'll Do Anything.

Bydd Matthew yn siarad am atgofion Nadolig ei blentyndod ei hun yn y rhaglen ddogfen, Atgofion Plentyn yng Nghymru. Mae hefyd yn westai ar raglen arbennig ddwy ran, Y 7 Magnifico a Matthew Rhys, sy'n dilyn saith o sêr Cymreig wrth iddynt fentro gweithio fel cowbois ar ranch go iawn yn Arizona.

Mae rhaglenni S4C dros yr Ŵyl yn cynnwys amrywiaeth eang o adloniant i'r teulu, chwaraeon, drama a sioeau cerddorol. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae rhaglen ddogfen ar flwyddyn ym mywyd y canwr Rhydian Roberts ar ôl ei lwyddiant yn cyrraedd rownd derfynol X Factor, a chyngerdd yn dathlu deunaw mlwyddiant ysgol berfformio Ysgol Glanaethwy.

Bydd arwres y West End, Connie Fisher, seren y byd opera, Shân Cothi a’r gantores Cerys Matthews yn ymddangos yn Cyngerdd C Ffactor, a recordiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gynharach eleni.

Noson Nadolig am 9 o'r gloch, bydd S4C yn cyflwyno addasiad ffilm o glasur modern Caryl Lewis, Martha, Jac a Sianco y bu disgwyl mawr amdani. Stori bwerus am etifeddiaeth a thensiynau teuluol, enillodd y nofel wobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn 2005. Addaswyd y nofel ar gyfer y sgrin gan Caryl ei hun ac mae Sharon Morgan, Ifan Huw Dafydd a Geraint Lewis yn cymryd y prif rannau.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, "Mae amserlen Nadolig S4C yn cynnig digonedd o adloniant i'r holl deulu, gydag arlwy ardderchog o ddrama, rhaglenni dogfen, comedi, chwaraeon a cherddoriaeth, yn ogystal ag amrywiaeth eang o raglenni i blant o bob oedran."

Rhyddhaodd S4C ei hamserlen raglenni ar gyfer y flwyddyn newydd 2009 hefyd. Bydd Y Dref Gymreig yn bwrw golwg ar dai sy'n nodweddiadol o drefi gwahanol yng Nghymru, tra bydd Teulu yn dychwelyd am ail gyfres. Gethin Jones fydd cyflwynydd Cwis Meddiant, sioe gwis cyffredinol yn cael ei chwarae ar linellau rygbi, a bydd digon o sbri yn y sioe newydd gomedi 'stand-up' Tudur Owen o’r Doc.

Nes ymlaen yn 2009, bydd Shân Cothi’n cyflwyno sioe newydd gerddoriaeth a sgwrsio, bydd Iolo Williams yn teithio i’r dwyrain i archwilio bywyd gwyllt Rwsia yn Rwsia Wyllt tra bydd Beth Angell yn dilyn ôl traed ei thad-cu, cenhadwr yn Khasia yn Angell yn India.

Am fanylion llawn amserlen Nadolig S4C, ewch i amserlen nadolig s4c pdf. Mae mwyafrif y rhaglenni i’w gweld ar-lein ar s4c.co.uk/clic am 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf.

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?