S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pobl Cymru’n dewis eu hoff emyn Pantycelyn

07 Mawrth 2008

Fe fydd rhifyn arbennig o gyfres canu ysbrydol S4C, Dechrau Canu Dechrau Canmol, nos Sul, 9 Mawrth, a ddarlledir o’r Afan Lido ym Mhort Talbot, yn datgelu pa emyn o waith William Williams, Pantycelyn sydd orau gan y Cymry.

Mae rhestr fer o ddeg emyn wedi ei dewis gan banel o arbenigwyr, ac mae’r gynulleidfa wedi bod yn pleidleisio dros eu ffefryn nhw. Ond mae’r llinellau ffôn bellach wedi cau a’r pleidleisiau wedi eu cyfrif.

Roedd William Williams, Pantycelyn (1717-1791), un o emynwyr mwyaf y Gymraeg, yn allweddol, ynghyd â Howell Harries, yn y diwygiad Methodistaidd Cymreig. Caiff hefyd ei gydnabod fel rhyddieithiwr a bardd o fri.

Bydd cynulleidfa o chwe chant o bobl yn cymryd rhan yn rhifyn arbennig Pantycelyn, a gyflwynir gan Hywel Gwynfryn, gyda Tim Rhys Evans yn arwain y canu i gyfeiliant cerddorfa Dechrau Canu Dechrau Canmol, wrth iddynt ganu’r ddeg emyn yn nhrefn y bleidlais.

Teledu Avanti, y cwmni sy’n cynhyrchu’r gyfres, sydd wedi trefnu’r bleidlais hon. Mae uwch gynhyrchydd y gyfres, Emyr Afan, yn edrych ymlaen yn fawr at yr uchafbwynt ym Mhort Talbot.

Eglura Emyr Afan, “Ar ôl ymateb gwych y llynedd i Emyn i Gymru 2007, fe benderfynon ni wneud yr un peth eto eleni. Mae’r ymateb, unwaith eto, wedi bod yn anghredadwy, ac mae’n profi bod yr emynau hyn, ganrifoedd ar ôl eu hysgrifennu, yn dal yn berthnasol i’n byd ni heddiw.”

Y deg emyn a gyrhaeddodd y rhestr fer oedd: Iesu, Difyrrwch f'enaid drud; Nefol Addfwyn Oen; Ennynaist ynof dân; O Tyred Iôr; Iesu, Iesu rwyt ti’n ddigon; O Llefara addfwyn Iesu; Mi dafla maich; Yn Eden cofiaf hynny byth; Pererin Wyf; Dal fi fy Nuw; Cudd fy meiau; Tyred Iesu i’r anialwch.

Roedd y panel a luniodd y rhestr fer yn cynnwys yr arweinydd Trystan Lewis, Delyth Morgans, Golygydd y Cydymaith i Caneuon Ffydd, Dr Kathryn Jenkins, Llywydd Cymdeithas Emynau Cymru, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C, Rob Nicholls, a’r Athro Derec Llwyd Morgan, a gadeiriodd y tîm o feirniaid.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?