S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sioe arbennig Pentre Bach yn teithio o amgylch Cymru

14 Ebrill 2008

Bydd llu o wynebau cyfarwydd o gyfres blant boblogaidd S4C, Pentre Bach, yn ymddangos mewn sioe arbennig i blant meithrin sy’n teithio ledled Cymru.

Bydd cyfle i’r plant fwynhau hynt a helynt Sali Mali, Jac y Jwc a Bili Bom Bom yn y sioe, Pen-blwydd Pwy? Bydd hefyd ymddangosiad arbennig gan gyflwynwraig Planed Plant Bach, Rachael Solomon.

Gan ddechrau yng Nghaerffili ar fore Llun, 21 Ebrill, bydd y sioe yn ymweld â deg o leoliadau ar draws y wlad yn ystod yr wythnos fel rhan o daith S4C a Twf, mudiad sy’n annog rhieni i fagu eu plant yn ddwy ieithog.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Dyma gyfle arbennig ac unigryw i’r plant weld sioe fyw gyda chymeriadau maent yn gyfarwydd â gweld ar y teledu.”

Meddai Meryl Pierce ar ran Twf, “Mae’n grêt cael y cyfle i gydweithio gyda S4C ar y daith hon. Mae’n gyfle gwych i ni gael rhannu neges Twf gyda rhieni am werth cyflwyno’r Gymraeg yn y cartref. Mae gwylio rhaglenni Cymraeg fel Planed Plant Bach yn ffordd wych iddynt glywed yr iaith.”

Diwedd

Dyma fanylion lleoliadau'r Daith:

Llun, 21 Ebrill  Canolfan Hamdden Caerffili 10.00am

Canolfan Hamdden Aberdâr 1.30pm

Mawrth, 22 Ebrill LC, Abertawe 10.00 am

 Neuadd Bronwydd, Bronwydd, Caerfyrddin 1.30pm

Mercher, 23 Ebrill Canolfan Morlan, Aberystwyth 10.00am

 Neuadd Glantwymyn, Glantwymyn 1.30pm

Iau, 24 Ebrill Y Ganolfan, Porthmadog 10.00am

 Neuadd y Capel, Ffordd Caergybi, Bangor 1.30pm

Gwener, 25 Ebrill Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl 10.00am

 Canolfan Hamdden Penllyn, Y Bala 1.30pm

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?