S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Aberystwyth yn llwyfan i benwythnos o gystadlu corawl

20 Ionawr 2009

Bydd cyfle i fwynhau gwledd o ganu corawl yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ddiwedd Chwefror pan fydd rowndiau cynderfynol cystadleuaeth Côr Cymru 2009 S4C yn cael eu cynnal.

Mae pum rownd gynderfynol wedi’u trefnu ar gyfer y Neuadd Fawr ar benwythnos 20-22 Chwefror gydag un côr buddugol ym mhob categori yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol ddydd Sul, 5 Ebrill.

Mae tocynnau ar gyfer y bum rownd gynderfynol ar gael yn rhad ac am ddim gan gwmni Rondo, un ai trwy ffonio 029 2022 3456 neu e-bostio corcymru@rondomedia.co.uk.

Bydd y rowndiau cynderfynol yn cael eu darlledu ar S4C ac S4C digidol yn ystod mis Mawrth ynghyd â’r rownd derfynol ar Sul, 5 Ebrill.

Meddai’r cynhyrchydd Gwawr Owen o gwmni Rondo Media, “Mae penwythnos y rowndiau cynderfynol yn achlysur arbennig iawn bob tro. Mae’r Neuadd Fawr, Aberystwyth yn llwyfan ardderchog ar gyfer y corau, a’r awyrgylch yn drydanol.

“Mae mantais arall o fynychu’r rowndiau cynderfynol, gan y bydd y rhai sydd wedi bod yno yn cael blaenoriaeth wrth ymgeisio am docynnau i’r rownd derfynol ar 5 Ebrill.”

Mae cryn dipyn yn y fantol i’r 18 côr yn y rowndiau cynderfynol, gan fod pob côr sy’n ennill ei gategori yn derbyn £2,000 ac yn cael y cyfle i gystadlu yn erbyn pedwar côr arall am deitl Côr Cymru 2009 a’r wobr ariannol o £5,000.

Y Corau Ieuenctid fydd yn brwydro yn y rownd gynderfynol Nos Wener, 20 Chwefror (8.00pm) yw Côr Aelwyd y Waun Ddyfal o Gaerdydd, Côr y Drindod o Gaerfyrddin, Ysgol Gerdd Ceredigion a Four Counties Choir o ogledd ddwyrain Cymru. .

Bydd dwy gystadleuaeth ddydd Sadwrn, 21 Chwefror gyda’r Corau Plant yn cystadlu o 2.00pm ymlaen a chystadleuaeth y Corau Merched am 8.00pm.

Y corau plant yn y rowndiau cynderfynol yw Ysgol Gerdd Ceredigion, Ysgol y Strade, Llanelli Côr Llanofer, Cwmbrân a Chôr Iau Glanaethwy ac yn y categori Corau Merched bydd Cantata o Gaerdydd, Ysgol Lewis i Ferched, Ystrad Mynach a Flintshire Senior County Choir am y gorau i gyrraedd y ffeinal.

Cawn ddos dwbl o’r canu gorau ddydd Sul, 22 Chwefror hefyd, gan ddechrau gyda’r Corau Cymysg, Côrdydd, Côr CF1, ill dau o Gaerdydd, Tempus o Sir Benfro a Chôr Eifionydd am 2.00pm. Yna, gyda’r nos am 8.00pm, tro’r Corau Meibion fydd hi, gyda Bois y Castell o Lanelli, Côr Meibion Fflint a Bechgyn Bro Tâf o Gaerdydd ar dân i greu argraff.

Bydd panel rhyngwladol o feirniaid yno i benderfynu pa gorau sy’n mynd ymlaen i'r rownd derfynol - ond ni chawn wybod pwy yw aelodau’r panel tan y penwythnos.

Dyma’r pedwerydd tro i S4C gynnal cystadleuath Côr Cymru a'r enillwyr blaenorol yw Côr Cywair o Gastell Newydd Emlyn (2007), Serendipity o Gaerdydd (2005) ac Ysgol Gerdd Ceredigion (2003).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?