S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol

17 Chwefror 2009

Penodwyd Elin Morris yn Gyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol newydd S4C.

Bydd Elin, sy’n cychwyn ar ei swydd yn ystod mis Mawrth, yn atebol i’r Prif Weithredwr, Iona Jones ac yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr S4C.

Mae Elin ar hyn o bryd yn bartner yn Adran Gwmnïau cwmni cyfreithiol Geldards, lle bu’n gweithio am 20 mlynedd, ers graddio yn y gyfraith o Goleg St Anne’s, Rhydychen.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae penodiad unigolyn o allu a phrofiad Elin yn hwb mawr i S4C ac yn sicr o gael effaith cadarnhahol ar ein gweithgareddau cyhoeddus a masnachol.”

Meddai Elin Morris, “Mae’n gyfnod cyffrous i’r Sianel ac i’r diwydiant a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r afael â’r swydd hon.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?