S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cael ei henwebu ar gyfer dwy wobr fawr

04 Mawrth 2009

Mae dwy o raglenni S4C wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau rhaglen y Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) a gynhelir yn Llundain yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae Con Passionate, sydd eisoes wedi ennill gwobr deledu Ewropeaidd fawr y Rose d’Or, wedi ei henwebu yn y categori Drama. Mae S4C wedi derbyn enwebiad hefyd yn y categori Plant a hynny am y gyfres feithrin ABC, a ddarlledir ar y gwasanaeth i’r gwylwyr iau, Cyw.

Mae Con Passionate, sydd â chast sy'n cynnwys y gantores opera Shân Cothi a nifer o actorion amlwg eraill, yn dilyn hynt a helynt côr meibion a’r arweinydd egnï0l, Davina.

Wedi ei hysgrifennu gan Siwan Jones a’i chynhyrchu gan Paul Jones o Deledu Apollo, rhan o gwmni Boomerang Plus Plc, mae’n wynebu cystadleuaeth gan gyfres ITV, The Fixer a chyfres Channel 4, City of Vice.

Mae ABC, cynhyrchiad Boomerang Plus plc i S4C, yn defnyddio cymysgedd o bypedwaith byw ac animeiddio i gyflwyno’r wyddor Gymraeg i blant mewn dull difyr ac arloesol.

Cynhyrchir y gyfres gan Angharad Garlick a Helen Davies a’r cyflwynydd yw Gareth Delve. Mae ABC yn wynebu cystadleuaeth gan gyfres Channel 4 Lifeproof a chyfres y BBC Get Squiddling.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson, “Mae S4C yn hynod falch o’r gydnabyddiaeth hon i’w rhaglenni gan sefydliad sy’n gosod y safonau uchaf posib yn nhermau gwasanaeth darlledu cyhoeddus.

“Mae Con Passionate wedi ennill nifer o wobrau eisoes, ond mae cael ei gosod ar restr fer y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn adlewyrchu’r safonau uchel a gyrhaeddwyd gan y gyfres. Mae’n profi hefyd bod cwmnïau teledu Cymru yn cyrraedd y nod o ragoriaeth greadigol a osodwyd gan S4C.

“Mae’n gryn gamp i dîm cynhyrchu ABC i gyrraedd y tri olaf mewn categori sy’n cynnwys yr holl amrywiaeth o raglenni plant, o bob oed a math. Mae’n adlewyrchiad o werthoedd cynhyrchu uchel ein gwasanaeth i blant, sy’n neilltuo chwe awr a hanner o raglenni'r dydd, bum niwrnod yr wythnos ar eu cyfer.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd yn ymwneud â’r cynyrchiadau a enwebwyd.”

Cyhoeddir yr enillwyr yn noson wobrwyo’r Gymdeithas yn y Grosvenor House Hotel yn Llundain nos Fawrth 17 Mawrth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?