S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sêr S4C yn lansio ymgyrch leol i dynnu sylw at y newid i ddigidol

10 Gorffennaf 2009

   Bu dau o gyflwynwyr teledu mwyaf poblogaidd Cymru ar y strydoedd heddiw yng nghwmni perfformwyr syrcas cyfoes i roi sylw i’r newidiadau sylweddol sydd ar fin taro’r tonfeddi.

Ymunodd Angharad Mair, sy’n cyflwyno’r rhaglen gylchgrawn Wedi 7, a Morgan Jones, y cwisfeistr, gohebydd pêl-droed a chyflwynydd, ac aelodau o NoFit State Circus ym Mae Caerdydd i godi ymwybyddiaeth o’r newid i ddigidol a’r ffaith mai dim ond rhaglenni Cymraeg fydd ar S4C wedi’r newid.

Ar hyn o bryd mae rhaglenni Saesneg gan Channel 4 yn cael eu darlledu ynghyd â’r rhaglenni Cymraeg ar S4C. Ar ôl y newid i ddigidol, sy’n cychwyn yng Nghymru yn mis Awst, bydd S4C yn llwyr yn y Gymraeg a chaiff holl gynnwys Channel 4 ei ddarlledu ar wahân.

I hysbysu gwylwyr sut i dderbyn S4C ar ôl y newid i ddigidol, mae’r Sianel yn cynnal ymgyrch wybodaeth helaeth ym mhob rhan o Gymru dros y misoedd i ddod.

Mae hyn yn cynnwys sioe deithiol i hysbysu cymunedau lleol am y newidiadau a beth sydd angen iddynt wneud i barhau i dderbyn rhaglenni Cymraeg. Mae’r ymgyrch yn cynnwys gweithdai ar sgiliau syrcas er mwyn denu gwylwyr o bob oedran i glywed am y newidiadau.

Byddant yn clywed sut y bydd pob un o’r wyth grŵp trosglwyddydd yng Nghymru yn symud fesul un o’r signal teledu analog traddodiadol i signal digidol rhwng mis Awst 2009 a mis Mawrth 2010.

Mae hyn yn golygu y gall gwylwyr dderbyn manteision darlledu digidol drwy erial deledu gyffredin yn ogystal â thrwy blatfformau eraill. Fodd bynnag dim ond setiau sydd wedi’u galluogi’n ddigidol fydd yn parhau i dderbyn gwasanaeth teledu.

Mae S4C yn gweithio’n agos gyda Digital UK, y corff annibynnol sy’n gyfrifol am y newid i ddigidol, i hysbysu cartrefi am yr hyn sydd angen iddynt ei wneud i osgoi colli derbyniad. Fel rhan o hyn, bydd yn rhaid i wylwyr yng Nghymru sy’n defnyddio offer Freeview eu hail-diwnio ar 9 Medi ac yna ail-diwnio eto pan fydd eu trosglwyddydd lleol yn newid i ddigidol er mwyn parhau i dderbyn S4C.

I lansio ymgyrch wybodaeth newydd S4C, ‘Ymlaen â’r Sioe’, bu Angharad a Morgan yn profi eu sgiliau cydlynu drwy jyglo a cherdded ar raff gydag ychydig o help gan berfformwyr NoFit State Circus. Cafodd gwylwyr yn y Bae eu hannog i ymuno a rhoi cynnig ar sgil syrcas a chanfod mwy am y newid i ddigidol a’r hyn y mae’n ei olygu i S4C.

Bydd y sioe ffordd sgiliau syrcas yn rhoi cyfle i wylwyr ofyn cwestiynau am sut y bydd y newid i ddigidol yn effeithio arnynt hwy a’r hyn sydd angen iddynt ei wneud i sicrhau y medrant barhau i fwynhau eu hoff raglenni ar S4C.

Bydd y cyflwynydd adnabyddus Sarra Elgan a’r digrifwr Tudur Owen yn ymuno ag Angharad Mair a Morgan Jones i gyflwyno’r ymgyrch a byddant yn cymryd rhan mewn gweithdai ym mhob rhan o’r wlad.

Caiff ymgyrch yn cynnwys y sêr a’u triciau syrcas hefyd ei darlledu ar S4C o 20 Gorffennaf ymlaen.

Wrth siarad yn y lansiad dywedodd Angharad Mair: “Dwi ddim yn wych gyda thechnoleg, ond mae newid i ddigidol yn haws na cherdded y rhaff! Nid oes rhaid i’r offer cywir fod yn ddrud a bydd buddsoddi ynddo’n golygu y byddwch yn dal i fedru gweld rhaglenni S4C - digwyddiadau byw a chwaraeon, drama, cerddoriaeth, newyddion a rhaglenni plant.

Ychwanegodd Morgan Jones: “Yn ogystal â’r newidiadau cyffrous sy’n dod yn sgil y newid i ddigidol, o 15 Awst ymlaen dylai pobl gofio addasu eu hoffer er mwyn medru dewis iaith y sylwebaeth ar rai o ddarllediadau chwaraeon S4C.”

Pwysleisiodd Tim Hartley, Pennaeth Materion Corfforaethol S4C, fod y Sianel yn barod ar gyfer y newidiadau i ddod – gan ddod am y tro cyntaf yn sianel yn llwyr ar gyfer rhaglenni Cymraeg.

Dywedodd “Mae’r newid i ddigidol yn cael ei gyflwyno’n raddol o ranbarth i ranbarth, rhwng mis Awst eleni a mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Rydym yn gweithio’n agos gyda Digital UK sy’n arwain yr ymgyrch gyffredinol i hysbysu’r cyhoedd am y newidiadau.

“Mae’r cyfnod newid i ddigidol yn her unigryw i S4C. Ein nod yn ystod y broses gymhleth yma yw cadw teyrngarwch ein cynulleidfa graidd drwy gynnig allbwn amrywiol o raglenni safon uchel gwreiddiol, blaengar a deniadol.

“O fis Medi ymlaen, bydd ein sioeau teithiol yn mynd i ganol cymunedau Cymru i sicrhau fod pawb yn deall manteision y newid i ddigidol a’r hyn sy’n rhaid iddynt wneud. Bydd hefyd ychydig o wersi jyglo ar gael wrth gwrs!”

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd

• Cynheliwyd y lawnsiad am 10.30 y bore, dydd Gwener 10 Gorffenaf ym Mhlas Roald Dahl, Bae Caerdydd.

• Cyflwynir y newid i ddigidol yn raddol, o ranbarth i ranbarth, rhwng mis Awst 2009 a mis Mawrth 2010. Gorllewin Cymru fydd y rhanbarth cyntaf i newid. Bydd trosglwyddydd Mynydd Cilfái yn ardal Abertawe; Preseli, sy’n rhoi gwasanaeth i dde a gorllewin Cymru, a Carmel sy’n rhoi gwasanaeth i rannau o ganolbarth a dwyrain Cymru yn newid ym mis Awst a mis Medi. Bydd Gogledd Cymru a rhannau dwyreiniol o’r canolbarth yn newid ym mis Hydref a mis Tachwedd 2009, gyda Chanolbarth Cymru, Caerdydd a de ddwyrain Cymru yn newid ym mis Chwefror a mis Mawrth 2010. Gall gwylwyr ddefnyddio’r gwiriwr côd post ar www.digitaluk.co.uk i ganfod yn union pryd mae eu hardal yn newid, neu medrwch ffonio 08456 50 50 50*.

• Ar 9 Medi mae’n rhaid i wylwyr Freeview (neu BT Vision neu Top Up TV) ym mhob rhan o Gymru aildiwinio eu hoffer i barhau i wylio S4C.

• Mae angen i wylwyr ar bob platfform i aildiwnio eu hoffer ar 15 Awst i ddewis iaith y sylwebaeth chwaraeon ar rai darllediadau S4C.

• Gall ymwelwyr hefyd ymuno â grŵp Facebook S4C i gael mwy o wybodaeth drwy logio i www.facebook.com a chwilio am grŵp Ymlaen â’r Sioe S4C. Medrant hefyd fynd i Twitter, www.twitter.com/s4cymlaenarsioe.

• Bydd Ymlaen â’r sioe S4C yn ymweld â’r ardaloedd canlynol yn y misoedd nesaf:

Trosglwyddydd Mynydd Cilfái (ardal Abertawe)

Sioeau: Mawrth, 1 a Mercher, 2 Medi

Gweithdai: Iau, 3 – Llun, 7 Medi

Trosglwyddydd Preseli (de orllewin Cymru)

Sioeau: Sadwrn, 12 a Sul, 13 Medi

Gweithdai: Iau, 10 – Llun, 14 Medi

Trosglwyddydd Carmel (rhannau o dde a chanolbarth Cymru)

Sioeau: Sadwrn, 19 a Sul, 20 Medi

Gweithdai: Iau, 17 – Llun, 21 Medi

Trosglwyddydd Llanddona (gogledd orllewin Cymru)

Sioeau: Sadwrn, 7 a Sul, 8 Tachwedd

Gweithdai: Iau, 12 – Llun 16 Tachwedd

Trosglwyddydd Moel y Parc (gogledd ddwyrain Cymru)

Sioeau: Sadwrn, 14 a Sul, 15 Tachwedd

Gweithdai: Iau 19 – Llun 23 Tachwedd

Trosglwyddydd Mynydd Hir (rhannau o ddwyrain a chanolbarth Cymru)

Sioeau: Sadwrn, 21 a Sul, 22 Tachwedd

Gweithdai: Iau, 26 – Llun, 30 Tachwedd

Trosglwyddydd Blaenplwyf (rhannau o orllewin a chanolbarth Cymru)

Sioeau: Sadwrn, 27 a Sul, 28 Chwefror

Gweithdai: Iau, 4 Mawrth - Llun, 8 Mawrth

Trosglwyddydd Gwenfo (Caerdydd a de orllewin Cymru)

Sioeau: Sadwrn, 27 Mawrth a Sul, 28 Mawrth

Gweithdai: Iau, 25 Mawrth – Llun, 30 Mawrth

Cyhoheddir manylion llawn yn y wasg leol ac ar wefan s4c.co.uk/digidol yn nes at y dyddiadau.

Ymholiadau cyfryngau/RSVP i Bethan Davies neu Mari Waddington

029 20 646 840, 07813 006125 neu 07979 840740

bethan.davies@workingwordpr.com neu mari.waddington@workingwordpr.com

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?