S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn disgleirio yng Ngwobrau Celtaidd 2009

27 Mawrth 2009

Mae rhaglen ddogfen drawiadol gan S4C am y dringwr disglair ifanc, Ioan Doyle, wedi ennill Gwobr Ysbryd yr Ŵyl, prif wobr Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2009.

Fe enillodd y rhaglen Dringo i’r Eitha’ o’r gyfres ddogfen Wynebau Newydd y wobr fawr mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yng Nghaernarfon nos Wener, 27 Mawrth. Fe enillodd S4C bedair gwobr arall hefyd yn yr Ŵyl.

Mae’r rhaglen, a gafodd ei chynhyrchu a’i chyfarwyddo gan Alun Hughes ar gyfer cwmni cynhyrchu Cwmni Da, yn dilyn y dringwr 16 oed o Fethesda, Gwynedd, wrth iddo wynebu cyfres o’r sialensiau dringo anodda’, E5 (Extreme 5), yn Eryri, Ynys Kalymnos, Gwlad Groeg a Dyffryn Yosemite, Califfornia, UDA.

Fe wnaeth rhaglen arall o stabl Y Byd ar Bedwar ennill y brif wobr yn y categori Materion Cyfoes. Roedd y rhaglen Y Byd ar Bedwar: Heroin, a gynhyrchwyd gan ITV Cymru, yn bortread grymus o bâr ifanc o Gaerdydd sy’n gaeth i heroin.

Y gyfres ddrama, Y Pris, sy’n dilyn hynt a helynt teulu o giangsters o orllewin Cymru, enillodd y wobr yn y categori Drama. Mae Y Pris, a gynhyrchir gan Fiction Factory, yn dychwelyd am ail gyfres ar 2 Ebrill. Wedi ei hysgrifennu gan Tim Price, mae’r cast cryf yn cynnwys Matthew Gravelle a Nia Roberts.

Enillodd S4C wobr am ei hymgyrch hyrwyddo ar gyfer gêm Lloegr v Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008. Cynhyrchwyd y ffilm hyrwyddo fer gan JM Creative ar gyfer S4C. Fe wnaeth yr ymgyrch hefyd ennill y wobr aur yng ngwobrau Promax UK fis Tachwedd y llynedd.

Cyflwynwyd Gwobr Kieran Hegarty am Ryngweithio i wefan S4C, Cyw, sy’n rhan o wasanaeth cynhwysfawr S4C ar gyfer y plant lleiaf. Cafodd y wefan - www.s4c.couk/cyw - ei dylunio gan Cube Interactive.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydym yn falch iawn bod rhaglenni a gwasanaethau S4C wedi cael cydnabyddiaeth trwy’r gwobrau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Mae’r rhaglenni sydd wedi dod i’r brig ymhlith uchafbwyntiau gwylio S4C mewn blwyddyn gyffrous o ddarlledu ar y Sianel. Hoffwn longyfarch yr holl dimau talentog ar hyd a lled Cymru sydd wedi cynhyrchu’r rhaglenni a’r gwasanaethau yma.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?