S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwahoddiad gan S4C i ddysgwyr Llanymddyfri

31 Mawrth 2009

Mae S4C yn gwahodd dysgwyr yr iaith Gymraeg yn Llanymddyfri a’r cyffiniau i noson arbennig i gyflwyno’r gwasanaeth rhyngweithiol sy’n galluogi dysgwyr ar bob lefel i fwynhau rhaglenni mwyaf poblogaidd y sianel.

Cynhelir y noson yng ngwesty’r Castell yn Llanymddyfri nos Iau 2 Ebrill am 7.00pm a bydd y gantores a’r actores Shân Cothi yno i groesawu pawb.

Mae’r gwasanaeth newydd – sydd ar gael drwy wasgu botwm ‘dysgwyr’ neu ‘learners’ ar s4c.co.uk – yn darparu ar gyfer dysgwyr, o newydd ddyfodiaid i’r iaith i fyny at siaradwyr rhugl.

Mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar rai o brif gyfresi S4C fel Byw yn yr Ardd a’r gyfres gerddoriaeth newydd, Shân Cothi.

Bydd Shân ei hunan yn cyflwyno dangosiad o raglen gyntaf y gyfres newydd ac, ar ôl y dangosiad, bydd cyfle i glywed mwy am y gwasanaeth newydd i ddysgwyr.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys cyflwyniadau i raglenni a phersonoliaethau S4C, yn ogystal â gwybodaeth gefndirol am ddiwylliant a thraddodiadau Cymraeg. Cynigir gweithgareddau i ddysgwyr ar bedair lefel wahanol: Cychwynwyr, Mynediad, Sylfaen a Chanolradd. Ceir dewis hefyd o batrymau iaith de a gogledd Cymru.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydym yn falch dros ben o fedru cynnig yr adnodd cynhwysfawr yma. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad S4C i hyrwyddo mynediad i’r Sianel i’r holl wylwyr, yn arbennig dysgwyr, sy’n rhan allweddol bwysig o’r gynulleidfa.”

Mae mynediad i’r dangosiad o Shân Cothi yn Llanymddyfri yn rhad ac am ddim. I sicrhau lle, ffoniwch gwmni Acen ar 029 20 300800 neu e-bostiwch jenny.allen@acen.co.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?