S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu ffilm yn dilyn llwyddiant Bafta Cymru

22 Mai 2009

 Bydd S4C yn cynnig cyfle arall i wylwyr fwynhau ffilm Martha, Jac a Sianco nos Sul, 7 Mehefin am 9:00pm yn dilyn llwyddiant ysgubol y cynhyrchiad yn seremoni wobrau Bafta Cymru yr wythnos hon.

Fe enillodd y ffilm bwerus chwe gwobr Bafta Cymru yn y seremoni fawreddog ym Mae Caerdydd ar 17 Mai, pan gipiodd S4C gyfanswm o 17 o wobrau.

Mae’r ffilm wedi ei selio ar nofel lwyddiannus Caryl Lewis o’r un enw, sy’n ymdrin â themâu etifeddiaeth teulu a thor calon. Mae’n dilyn bywyd dau frawd a chwaer sy’n byw ar y fferm deuluol, Graig Ddu, yng ngorllewin Cymru wrth iddyn nhw ddod i delerau â marwolaeth eu mam.

Llwyddodd y ffilm i gipio dwy brif wobr Bafta Cymru: Yr Actor Gorau i Ifan Huw Dafydd (Jac) a gwobr yr Actores Orau i Sharon Morgan (Martha).

Roedd y noson yn llwyddiant i’r cwmni cynhyrchu, Apollo, rhan o gwmni Boomerang Plus ccc, gyda’r tîm cynhyrchu hefyd yn cipio pedair gwobr am eu gwaith.

Enillodd Richard Wyn Huws wobr Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama; Phil Williams y Cynllunio Gorau; Stephen Williams y Coluro Gorau; a John Hardy y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau.

Cafodd y ffilm dywyll, atmosfferig ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C ar Ddiwrnod Nadolig, ac fe’i ffilmiwyd bron yn gyfan gwbl ar fferm Cribor Fawr, ger Llandysul, yng nghefn gwlad Ceredigion.

Y cynhyrchydd oedd Lona Llewelyn Davies a’r cyfarwyddwr oedd Paul Jones gyda’r sgript wedi ei haddasu gan awdures y nofel, Caryl Lewis. Roedd y cast hefyd yn cynnwys Geraint Lewis, a chwaraeodd ran yr ail frawd, Sianco, a chyn actores EastEnders, Carol Harrison oedd yn chwarae rhan Judy, cariad Jac.

Llwyddodd Apollo hefyd i gipio gwobr y Gyfres Ddrama Orau am y drydedd gyfres o Con Passionate, cyfres sydd wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys y Rose d’Or.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Mae’r amrywiaeth o wobrau yn adlewyrchu talentau creadigol a sgiliau technegol y tîm fu’n gweithio ar Martha, Jac a Sianco. Mae’n bleser gennym gynnig cyfle arall i’r gwylwyr fwynhau’r cynhyrchiad llwyddiannus hwn.”

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?