S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Chelsea a Chaerdydd yn fyw dim ond ar S4C: 13.02.10 am 12:00

27 Ionawr 2010

  Bydd S4C yn darlledu gêm bumed rownd y Cwpan FA rhwng y deiliaid Chelsea a Chaerdydd yn fyw ac yn ecsgliwsif ar deledu o Stamford Bridge.

Tîm Sgorio fydd yn cyflwyno'r gêm, a ddarlledir ddydd Sadwrn 13 Chwefror (cic gyntaf am 12:00)

Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar y gêm a bydd modd ei gwylio'n fyw ar-lein ar s4c.co.uk.

Yn dilyn y gêm bêl-droed, bydd S4C yn darlledu ail gêm rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gwasanaeth ar-lein S4C ar gael drwy Brydain.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?