S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Trydedd Rownd Cwpan yr FA yn fyw ar S4C

05 Ionawr 2010

 Bydd S4C yn darlledu gêm drydedd rownd y Cwpan FA rhwng Bristol City a Chaerdydd yn fyw o Ashton Gate nos Fawrth 12 Ionawr (cic gyntaf 7.45pm).

Roedd y gêm i fod i gael ei chwarae ddydd Sadwrn 2 Ionawr ond fe'i gohiriwyd oherwydd y tywydd gwael.

Tîm Sgorio fydd yn cyflwyno'r gêm ddarbi hon wrth i S4C ddilyn llwyddiant clybiau Cymru yng nghwpan yr FA a noddir gan Eon. Yn ymuno â'r cyflwynydd Gareth Roberts bydd John Hartson ac Osian Roberts gyda Nic Parry a Malcolm Allen yn y blwch sylwebu.

Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar y gêm a bydd modd ei gwylio'n fyw hefyd ar wefan S4C, s4c.co.uk.

Meddai cyn flaenwr Newcastle a Chymru, Malcolm Allen, sy'n wyneb cyfarwydd ar Sgorio, "Mae gan Gaerdydd record dda iawn oddi cartref y tymor yma ac mae eu record sgorio'n anhygoel. Ond darbi yw darbi a dyw hi byth yn hawdd rhagweld beth fydd yn digwydd mewn gêm yng Nghwpan yr FA. Bydd Bristol City yn sicr yn barod am yr her hon. Mae'n addo bod yn gêm wych."

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?