S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn penodi Cydlynydd Cynnwys Digidol

24 Ionawr 2012

Mae S4C yn falch o gyhoeddi bod Matthew Glyn Jones wedi ei benodi’n Gydlynydd Cynnwys Digidol.

Fe fydd yn ymuno â thîm comisiynu’r Sianel am gyfnod o chwe mis ac yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r cyfryngau digidol ar S4C.

Fe fydd yn cydweithio’n agos gyda’r golygyddion cynnwys a’r cwmnïau cynhyrchu i gydlynu’r defnydd o gyfryngau digidol fel rhan o wasanaeth rhaglenni’r Sianel.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?