S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyw ar gael ar bob cyfrwng wrth lansio ap

12 Tachwedd 2010

  Mae S4C yn mentro i fyd technoleg i blant drwy lansio ap i hyrwyddo gwasanaeth meithrin arloesol y Sianel, Cyw, sydd nawr ar gael am ddim ar ddyfeisiau symudol.

Bydd gan rieni gyfle i lawr lwytho’r ap arbennig hon, sy’n cynnwys straeon, caneuon a gemau, er mwyn cynnig adloniant i’w plant bob adeg o’r dydd. Mae byd Cyw yn fyd lliwgar, dwyieithog ac yn gyfle i blant ac oedolion ddysgu a mwynhau yng nghwmni ei gilydd.

Bydd yr ap, sydd wedi’i gynllunio gan Cube Interactive ar ran Boomerang+ – y cwmni sy’n cynhyrchu darpariaeth Cyw i S4C, ar gael am ddim o iTunes i ddyfeisiau symudol Apple iPhone, iPod Touch ac yn gweithio ar iPad. Bydd hefyd ar gael i ddefnyddio ar ffonau Android a Smartphone.

Mae gwefan ddwyieithog Cyw a gwasanaeth Clic S4C, lle mae gwylwyr yn gallu gwylio rhaglenni Cyw ar alw, hefyd ar gael i wylio ar ffonau symudol neu iPad drwy glicio ar s4c.co.uk/cyw.

Ymunwch â byd hudolus Cyw wrth ddarllen a gwrando am anturiaethau Cyw a’i ffrindiau, chwarae gemau di-ri a mwynhau gwrando ar dair cân o’r newydd a gyfansoddwyd gan Steffan Rhys Williams.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Mae’r datblygiad pwysig hwn i wasanaeth Cyw yn dangos fod S4C ar flaen y gad ym myd technoleg i blant. Dyma’r ddyfais gyntaf o’r fath i blant yn yr iaith Gymraeg, i rieni a phlant meithrin. Rydym wedi dylunio straeon, caneuon a gemau sy’n unigryw i’r ffynhonnell yma fydd yn ysbrydoli, ysgogi dychymyg a synhwyrau, addysgu a chynnig adloniant.”

Meddai Hywel Jones, Prif Weithredwr Mudiad Ysgolion Meithrin, “Mae Mudiad Ysgolion Meithrin yn croesawu’r newyddion fod S4C yn lansio ap ar gyfer y gwasanaeth meithrin, Cyw. Mae Cyw wedi bod yn wasanaeth arloesol o’r dechrau, ac mae’n cael ei werthfawrogi gan filoedd o blant ifainc a’u rhieni ar draws Cymru a thu hwnt yn ddyddiol. Mae’n bwysig fod Cyw yn parhau i fod yn arloesol, ac mae’n wych fod y Sianel yn buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf ac yn ei rannu gyda’r gynulleidfa bwysig hon. Ni allwn ond dymuno pob llwyddiant i’r fenter newydd.”

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?