S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyflwynwyr Stwnsh yn mentro i fyd y siartiau

02 Rhagfyr 2010

 Mae’r Nadolig yn brysur agosáu ac i ddathlu’r Ŵyl mae cyflwynwyr Stwnsh – gwasanaeth S4C i blant 7 - 13 oed – yn mentro i fyd cerddoriaeth wrth iddyn nhw recordio cân Nadoligaidd arbennig iawn.

Geraint Hardy, Lois Cernyw, Tudur Phillips, Anni Llŷn, Owain Gwynedd ac Eleri Griffiths yw’r chwech cyflwynydd fydd yn ymddangos ar y trac. Y cyfansoddwr Steffan Rhys Williams oedd yn gyfrifol am alaw a threfniant y gân ac Anni – y cyflwynydd – wnaeth ysgrifennu’r geiriau.

Enw’r gân yw ‘Mae’r Nadolig wedi dod’ ac mae ar gael i’w lawr lwytho am ddim o wefan Stwnsh – s4c.co.uk/stwnsh – a chyn bo hir, gallwch fwynhau’r fideo arbennig ar y wefan ac ar y teledu hefyd.

Meddai Anni, “Dwi wir wedi mwynhau ‘sgrifennu’r geiriau ar gyfer Mae’r Nadolig wedi dod – dwi’n cyfansoddi ac ysgrifennu caneuon yn aml iawn ond mae cael gwneud gyda chriw Stwnsh yn brofiad gwych. Dyma’n ‘Dolig cyntaf ni gyda’n gilydd a ‘da ni wedi cael llawer o hwyl yn recordio’r gan a’r fideo ac yn esgus ein bod ni’n sêr bop! ”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?