S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

John Walter Jones – Datganiad ar ran Awdurdod S4C

07 Rhagfyr 2010

Yn dilyn cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol fod John Walter Jones wedi ymddeol o fod yn Gadeirydd Awdurdod S4C dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod y bydd Rheon Tomos yn gyfrifol am arwain yr Awdurdod, fel Is-Gadeirydd, hyd nes y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi Cadeirydd newydd i’r Awdurdod.

Yn ôl Rheon Tomos, “Hoffwn ddiolch i John am ei gyfraniad dros y blynyddoedd. Mae’n rhaid i’r Awdurdod a’r Sianel edrych tua’r dyfodol. Mae trafodaethau pwysig a phenderfyniadau allweddol i’w gwneud dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf ac mae aelodau’r Awdurdod yn unfrydol fod yn rhaid sicrhau annibyniaeth S4C a sefydlu ffrwd cyllid hir dymor i’r Sianel. Edrychwn ymlaen i gyd weithio gyda DCMS, y BBC, y sector gynhyrchu yng Ngymru, y Cynulliad a phartneriaid eraill er mwyn gwneud hynny”.

Fe gafodd John Walter Jones ei benodi yn Gadeirydd yn Ebrill 2006. Cyn ymuno ag S4C bu’n was sifil ac yn 1988 fe sefydlodd Fwrdd yr Iaith Gymraeg a hyd ei ymddeoliad yn 2004 bu’n Brif Weithredwr ar y Bwrdd.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?