S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu cyfres yn dilyn wyth o sêr yn dysgu Cymraeg

09 Mehefin 2011

   Mae wyth o bobl adnabyddus yn paratoi i dreulio wythnos ddwys yn dysgu Cymraeg mewn gwersyll ecogyfeillgar yn Sir Benfro ar gyfer cyfres S4C, cariad@iaith:love4language

Ni all y Sianel ar hyn o bryd ddatgelu enwau’r wyth dysgwr a fydd yn treulio wythnos yn wynebu gwahanol heriau ieithyddol yng ngwersyll trawiadol Fforest, Cilgerran, Sir Benfro. Fe fyddan nhw’n cyrraedd y gwersyll ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf.

Bydd y camerâu’n dilyn y dysgwyr Cymraeg newydd wrth iddynt astudio Cymraeg am bedair awr bob dydd o dan arweiniad y cyflwynydd a’r tiwtor iaith Nia Parry a’r tiwtor iaith blaenllaw Ioan Talfryn.

Fe fydd y gyfres, a ddarlledir dros wythnos gyda Gareth Roberts yn cyflwyno, yn dilyn y sêr mewn sioeau nosweithiol awr o hyd.

Mae’r wythnos, sy’n dechrau gyda rhaglen i lansio’r gyfres ar S4C ddydd Gwener, 8 Gorffennaf am 8.25pm, yn cyrraedd ei hanterth gyda seremoni wobrwyo arbennig nos Wener, 15 Gorffennaf.

Bydd y sioe yn cyd-redeg ag Wythnos Dysgu Cymraeg S4C pan fydd y Sianel yn cydweithio gyda sefydliadau, newyddiadurwyr a chwmnïau i greu fwy o ddiddordeb fyth yn yr iaith Gymraeg.

Mae’r gyflwynwraig fyrlymus a’r tiwtor iaith Nia Parry yn edrych ymlaen yn arw at sialens y gyfres cariad@iaith.

Meddai Nia Parry: “Ni allwn ddatgelu’r enwau eto ond gallaf gadarnhau y byddan nhw’n gymysgedd liwgar, ddeinamig o bobl adnabyddus. Fe fydd ganddyn nhw eu rhesymau personol eu hunain dros ddysgu Cymraeg ond fe allaf eich sicrhau eu bod i gyd yn gystadleuol ac yn frwd iawn. Fe ddylai fod yn wythnos ddiddorol iawn inni a’n gwylwyr ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y profiad.”

Bydd Nia ac Ioan yn defnyddio techneg ddysgu Cymraeg o’r enw ‘TPR storytelling’, dull a gafodd ei ddatblygu yn yr Unol Daleithiau sy’n defnyddio gweithgareddau corfforol gyda’r pwyslais ar ddatblygu dealltwriaeth.

“Fe fyddai llawer yn dweud bod gweld y sêr yn adloniant pur ond mae’r dull yma o ddysgu yn ffordd newydd, ddyfeisgar o ddysgu ieithoedd a fydd hefyd yn ddifyr i’w gwylio. Mae yna neges bwysig yma hefyd wrth gwrs – mae’n bosibl i unrhyw un ddysgu Cymraeg a chael hwyl wrth ddysgu,” meddai Nia, sy’n byw ger Caernarfon, Gwynedd.

Bydd canolfan Fforest – sy’n cynnig profiadau gwersylla ac awyr agored ychydig yn wahanol – yn lleoliad gwych ar gyfer y gyfres.

Ychydig o gyswllt gyda’r byd tu allan fydd gan y sêr yn ystod yr wythnos ond bydd gan y sêr yr hawl i drydar, blogio a defnyddio Facebook. Fe ddylai hynny fod yn ddeunydd darllen difyr i syrffwyr.

Cwmni cynhyrchu Fflic, sy’n rhan o grwp Boomerang+, fydd yn gyfrifol am gynhyrchu’r gyfres o raglenni byw, uchafbwyntiau a gweddarlledu.

Cafodd cyfres flaenorol o cariad@iaith:love4language ei darlledu rai blynyddoedd yn ôl pan ddaeth Tanni Grey-Thompson, Janet Street-Porter, Ruth Madoc, Steve Strange, Jamie Shaw, Bernard Latham ac Amy Wadge ynghyd ar gyfer arhosiad dramatig yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?