S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Antur fawr Russell i Affrica

07 Ionawr 2011

  Yfory (Sadwrn 8 Ionawr) bydd y garddwr adnabyddus Russell Jones yn cychwyn ar ei antur fawr i gyfandir Affrica.

Mae cyflwynydd lliwgar Byw yn yr Ardd yn ymweld â gwledydd Kenya a Tanzania i ddysgu sut mae’r trigolion yn tyfu bwyd a chadw anifeiliaid gydag adnoddau prin. Bydd y daith yn cael ei ffilmio ar gyfer cyfres arbennig Byw yn y Byd fydd yn cael ei darlledu ar S4C ym mis Chwefror.

Wrth iddo baratoi i ffarwelio â’i wraig Jen, ei fab ifanc Bleddyn, y patch llysiau a’i ieir yn Rhosgadfan, dywedodd Russell ei fod yn edrych ymlaen yn arw at antur fwya’ ei fywyd.

Meddai’r cyflwynydd 30 oed: “Dwi erioed wedi teithio mor bell o’r blaen, a dwi ddim yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl. Bydd yn deimlad rhyfedd i adael yr ieir a’r patsh yn Rhosgadfan, heb son am Jen a Bleddyn. Dyma’r tro cyntaf i mi dreulio mwy na phenwythnos i ffwrdd o adra’.

“Dwi’n edrych 'mlaen i weld sut mae’r bobl yn tyfu llysiau a chadw ieir allan fan’na. Dwi’n siŵr y bydda’i yn dysgu dipyn go lew ganddyn nhw.”

Yn ymuno â Russell ar y daith bydd Branwen Niclas o’r elusen Cymorth Gristnogol fydd yn mynd ag ef i weld sawl prosiect sy’n helpu pobl i fyw yn gynaliadwy, gan gynnwys hyfforddi pobl i dyfu cnydau mewn amgylchiadau sych a sut i gadw ieir.

Mae Russell yn credu bod y gwaith o ddysgu pobl i fyw yn gynaliadwy yn bwysig iawn.

“Dwi’n gwybod eu bod nhw’n byw dan amgylchiadau eithafol, ac mi fydd hi’n ddiddorol iawn i weld sut maen nhw’n ymdopi. Gobeithio bydd y gyfres yn agoriad llygad i ni gyd. Mae’n wirion bod pobl yn prynu llysiau sy’n cael eu tyfu mewn gwledydd sy’n stryglo - a digon o bridd ganddyn nhw i dyfu llysiau eu hunain adref!” meddai.

Dilynwch antur fawr Russell drwy y blog Byw yn y Byd , ar Twitter @bywynybyd ac ar dudalen Facebook.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?