S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Uchafbwyntiau gemau Cwpan FA Caerdydd ac Abertawe ar Sgorio

07 Ionawr 2011

Bydd uchafbwyntiau gemau Caerdydd ac Abertawe yn nhrydedd rownd y Cwpan FA yn cael ei ddarlledu ar raglen pêl-droed S4C, Sgorio, nos Lun 10 Ionawr (22:00).

Daeth carfan Dinas Caerdydd yn agos i godi’r cwpan yn 2008 ond bydd yn rhaid iddynt guro Stoke yn Stadiwm Britannia cyn symud ymlaen. Colchester fydd gwrthwynebwyr Abertawe yn Stadiwm Liberty wrth iddyn nhw ddechrau ar eu taith yn y gystadleuaeth.

Yn ystod y rhaglen, bydd tîm Sgorio – sy’n cynnwys cyn-ymosodwyr Cymru John Hartson a Malcolm Allen a’r darlledwr chwaraeon Dylan Ebenezer – yn dadansoddi’r gemau ac yn edrych ymlaen at y rownd nesaf.

Hefyd, bydd uchafbwyntiau gemau Uwch Gynghrair Cymru gan gynnwys Airbus a Prestatyn, Caerfyrddin v Castell-Nedd, Bangor v Hwlffordd, Llanelli v Y Bala, Aberystwyth v Y Seintiau Newydd, a Phort Talbot v Y Drenewydd.

Fel arfer, cawn wledd o goliau a chyffro o gynghreiriau La Liga a Serie ‘A’, yn ogystal â straeon eraill y penwythnos o’r byd pêl-droed.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?