S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu gêm Caerdydd a Stoke yn fyw

12 Ionawr 2011

    Bydd gêm ail gyfle trydedd rownd Cwpan yr FA rhwng Caerdydd a Stoke yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C nos Fawrth, 18 Ionawr.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gwasanaeth ar-lein S4C ar gael drwy Brydain.

Mae’r gêm, i’w darlledu o Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:30, yn cael ei chyflwyno gan dîm profiadol Sgorio wrth i’r sianel dilyn taith carfan y brifddinas i Wembley.

Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar Caerdydd v Stoke City: Cwpan FA ac mae modd gwylio'r gêm yn fyw ar-lein ar s4c.co.uk. Cyn-chwaraewyr Cymru, Malcolm Allen, John Hartson a Dai Davies fydd yn ymuno â Dylan Ebenezer i gyflwyno ar ran S4C.

Yn y gêm wreiddiol y penwythnos diwethaf, llwyddodd ymosodwr Stoke, Tuncay, i lefelu’r sgôr cyn hanner amser a sicrhau ail gyfle yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl i Michael Chopra fwrw’r targed i Gaerdydd yn gynnar.

Mae darlledu gemau’r Cwpan FA wedi bod yn boblogaidd iawn ar y Sianel yn y gorffennol. Fe wnaeth bron 500,000 o gefnogwyr pêl-droed ledled y DU droi at ddarllediad S4C o gêm drydedd rownd Bryste a Chaerdydd yn 2010. Gwnaeth nifer fawr hefyd wylio’r Adar Gleision yn colli yn erbyn y deiliaid, Chelsea, yn y bumed rownd.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Geraint Rowlands, "Mae pêl-droed yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymroddiad i ddod â'r gorau o bêl-droed Cymreig i'r gwylwyr. Rydym yn falch iawn i barhau’r berthynas lwyddiannus gyda Chwpan yr FA, a noddir gan Eon. Mae’r gemau yma’n llawn ddrama ac emosiwn wrth i daith un o’r timau yn y gystadleuaeth ddod i ben."

Ar 8 Chwefror, bydd S4C hefyd yn darlledu’n fyw o stadiwm newydd Aviva yn Nulyn gan gofnodi dechrau cyfnod Gary Speed fel rheolwr Cymru wrth iddynt herio Gweriniaeth Iwerddon.

Bob brynhawn Sadwrn, mae S4C yn darlledu gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru, yn ogystal â gwasanaeth canlyniadau di-dor ar Sgorio.

Diwedd

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?