S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC yn llofnodi cytundeb partneriaeth ar ei newydd wedd

11 Ionawr 2011

Mae Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC wedi llofnodi cytundeb partneriaeth ar ei newydd wedd sy’n amlinellu’r bartneriaeth rhwng y ddau ddarlledwr tan 2013, pan fydd trefniadau cyllido newydd a gytunwyd yn y setliad diweddar ar ffi’r drwydded yn dod i rym.

Mae’r cytundeb partneriaeth yn delio â dyletswydd statudol y BBC i ddarparu o leiaf 10 awr o raglenni'r wythnos i S4C (520 awr dros y flwyddyn) wedi eu cyllido o ffi’r drwydded.

Mae’r darpariaethau newydd yn cynnwys darparu’r holl raglenni S4C a gynhyrchwyd gan y BBC ar BBC iPlayer ar unwaith yn ogystal ag ymrwymiad i ddarparu Pobol y Cwm mewn diffiniad uchel erbyn diwedd 2011.

Mae’r newidiadau eraill yn cynnwys sefydlu Cyd-Fwrdd Adolygu Newyddion a fydd yn trafod ac yn ymgynghori ar berfformiad a datblygiad strategol gwasanaeth Newyddion y BBC ar S4C.

Bydd brandio’r holl raglenni a ddarperir gan y BBC dan y cytundeb yn cael ei wella yn y dyfodol fel y bydd hi’n haws i’r sawl sy’n talu ffi’r drwydded wybod pa raglenni sy’n cael eu cyllido o ffi’r drwydded.

Mae fframwaith mesur perfformiad newydd wedi cael ei gytuno ar gyfer cyfraniad y BBC i S4C a fydd yn galluogi Awdurdod S4C a’r Ymddiriedolaeth i asesu gwerth cyhoeddus ac ymwybyddiaeth y gynulleidfa o raglenni y mae’r BBC wedi cyfrannu atynt yn well. Bydd gwylwyr a gwrandawyr yng Nghymru yn cael cyfle i leisio'u barn am ystod eang o bynciau. Bydd y ddau gorff yn rhannu adborth cynulleidfa.

Mae’r cytundeb hefyd yn cadarnhau’r gostyngiad a gyhoeddwyd eisoes yn y cyllid ar gyfer y 10 awr o raglenni wythnosol, o £23.5 miliwn yn 2010/11, i £19.4 miliwn yn 2012/13.

Trafodwyd y cytundeb newydd gan dîm rheoli S4C a Gweithrediaeth y BBC ac yna fe’i cymeradwywyd gan Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C ym mis Rhagfyr 2010. Daw i rym ar unwaith gan ddisodli’r hen gytundeb a oedd yn ei le rhwng 2007 a 2009.

Dywedodd Syr Michael Lyons, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC: “Mae’r bartneriaeth ddiwygiedig hon yn adeiladu ar ein perthynas gref ag S4C ac mae’n sail i ymrwymiad hirsefydlog y BBC at ddarlledu yn yr iaith Gymraeg.”

Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru: “Mae’r cytundeb hwn yn rhoi sicrwydd o gyllid y BBC tuag at gynhyrchu rhaglenni dros y ddwy flynedd nesaf, gan ddarparu cynnwys a werthfawrogir gan gynulleidfaoedd iaith Gymraeg. Bydd yn mynd â ni at 2013 pan fydd y trefniadau newydd a amlinellwyd yn y setliad diweddar ar ffi’r drwydded yn cael eu cyflwyno. Ar hyn o bryd mae’r trefniadau hyn yn destun trafod rhwng yr Ymddiriedolaeth, S4C a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.”

Mae Rheon Tomos, Is-Gadeirydd Awdurdod S4C wedi croesawu’r cytundeb ar ei newydd wedd.

Dywedodd Rheon Tomos: “Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r BBC a bydd y darpariaethau newydd yn y cytundeb yn ein helpu i feithrin y berthynas glòs sydd eisoes yn bodoli rhyngom. Mae ein gwylwyr yn dweud wrthym fod darparu rhaglenni o safon yn rhoi S4C wrth galon diwylliant Cymru ac mae’n hanfodol i gynnal yr iaith Gymraeg. Bydd ein cytundeb â’r BBC yn hollbwysig wrth i ni gyflawni’r amcanion hyn.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

Roedd y cytundeb partneriaeth blaenorol rhwng y BBC ac S4C i fod i ddod i ben ar ddiwedd 2009, ond cafodd ei ymestyn tan ddiwedd 2010 fel bo’r trafodaethau rhwng y timoedd rheoli perthnasol yn gallu cael eu cwblhau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?