S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dafydd Jones yn westai ar Wedi 7 heno

10 Ionawr 2011

  Bydd cyn-chwaraewr rheng-ôl Cymru a’r Scarlets, Dafydd Jones, yn datgelu’r torcalon o orfod ymddeol yn gynnar o’r gamp mewn cyfweliad estynedig arbennig ar raglen gylchgrawn fyw S4C, Wedi 7.

Yn gynharach yn yr wythnos, gorfodwyd Jones - sydd wedi ennill 42 cap dros Gymru - i ymddeol ar ôl methu a gwella o anaf difrifol i’w ysgwydd.

Ar rifyn nos Lun, 10 Ionawr Wedi 7 am 7.00pm, bydd Dafydd yn ymuno â’r cyflwynydd John Hardy yn y stiwdio yn Llanelli i edrych nôl ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei yrfa a’i rôl newydd yn hyfforddi carfan Academi’r Scarlets.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?