S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu Abertawe v Leyton Orient yn y Cwpan FA

13 Ionawr 2011

  Bydd gêm Pedwaredd Rownd Cwpan yr FA rhwng Abertawe a Leyton Orient yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C prynhawn Sadwrn, 29 Ionawr.

Mae’r gêm, i’w darlledu o Stadiwm Liberty gyda’r gic gyntaf am 12:50, yn cael ei chyflwyno gan dîm profiadol Sgorio wrth i’r sianel ddilyn taith Abertawe ar eu ffordd i Wembley. Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar Abertawe v Leyton Orient: Cwpan FA ac mae modd gwylio'r gêm yn fyw ar-lein ar s4c.co.uk.

Bydd yr ornest rhwng Abertawe a Leyton Orient yn cychwyn prynhawn llawn o bêl-droed Cwpan gyda darllediad byw o Gwpan Cymru i ddilyn wrth i’r Rhyl herio’r Seintiau Newydd, yn ogystal â gwasanaeth canlyniadau di-dor o holl gemau’r prynhawn.

Ar 8 Chwefror, bydd S4C hefyd yn darlledu’n fyw o stadiwm newydd Aviva yn Nulyn gan gofnodi dechrau cyfnod Gary Speed fel rheolwr Cymru wrth iddynt herio Gweriniaeth Iwerddon.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?