S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dod a’r ail sianel i ben

14 Ionawr 2011

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, mae S4C wedi penderfynu dirwyn sianel S4C2 i ben.

Meddai llefarydd ar ran S4C:

“Yn dilyn cyhoeddiad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch toriadau i’r gyllideb, mae S4C wedi bod yn adolygu sut i wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael. O ganlyniad, penderfynwyd dod â sianel S4C2 i ben.

“Mae S4C yn bwriadu darparu mwy o ddarllediadau byw yn ystod y dydd o ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Sioe Frenhinol ar y brif sianel. Rydym hefyd yn bwriadu ehangu’r gwasanaeth ar-lein yn ystod digwyddiadau byw.”

Yn y gorffennol, bu S4C2 yn dangos darllediadau byw o’r Senedd ym Mae Caerdydd cyn i’r gwasanaeth symud i safle we Democratiaeth Fyw y BBC ar ddechrau 2010. Mae modd gwylio cyfarfodydd y dydd o’r Senedd ar S4C gyda’r hwyr ar nos Fawrth, Mercher ac Iau.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?