S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dros 600,000 yn gwylio Caerdydd a Stoke ar S4C

20 Ionawr 2011

 Denodd darllediad byw S4C o gêm ail chwarae trydedd rownd Cwpan yr FA rhwng Caerdydd a Stoke 608,000 o gefnogwyr pêl-droed ledled y DU nos Fawrth ddiwethaf (18 Ionawr).

Fe wnaeth dros 360,000 o wylwyr wylio’r rhaglen, a gyflwynwyd gan dîm cyflwyno Sgorio, yng Nghymru a 246,000 ychwanegol yn gwylio tu hwnt i’r ffin.

Gêm Pedwaredd Rownd rhwng Abertawe a Leyton Orient fydd yr ornest Cwpan FA nesaf i’w darlledu’n fyw ar S4C prynhawn Sadwrn, 29 Ionawr am 12:30 (cic gyntaf am 12:50). Bydd y gêm o Stadiwm Liberty yn cychwyn prynhawn llawn o bêl-droed Cwpan gyda darllediad byw o Gwpan Cymru i ddilyn wrth i’r Rhyl herio’r Seintiau Newydd, yn ogystal â gwasanaeth canlyniadau di-dor o holl gemau’r prynhawn.

Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar Abertawe v Leyton Orient: Cwpan FA ac mae modd gwylio'r gêm yn fyw ar-lein ar s4c.co.uk.

Mae darlledu gemau’r Cwpan FA wedi bod yn boblogaidd iawn ar y Sianel yn y gorffennol. Fe wnaeth 459,000 o gefnogwyr pêl-droed ledled y DU droi at ddarllediad S4C o gêm drydedd rownd Bryste a Chaerdydd yn 2010. Gwnaeth nifer fawr hefyd wylio’r Adar Gleision yn colli yn erbyn y deiliaid, Chelsea, yn y bumed rownd.

Ar 8 Chwefror, bydd S4C hefyd yn darlledu’n fyw o stadiwm newydd Aviva yn Nulyn gan gofnodi dechrau cyfnod Gary Speed fel rheolwr Cymru wrth iddynt herio Gweriniaeth Iwerddon.

Bob brynhawn Sadwrn, mae S4C yn darlledu gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru, yn ogystal â gwasanaeth canlyniadau di-dor ar Sgorio.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gwasanaeth ar-lein S4C ar gael drwy Brydain.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?