S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hwyl a drygioni ar y botwm coch yn ystod y Chwe Gwlad

02 Chwefror 2011

  Yn ystod gêm rygbi Cymru v Lloegr yn y Chwe Gwlad, nos Wener 4 Chwefror am 19:00, fe fydd gwylwyr S4C yn gallu dewis gwrando ar sylwebaeth go wahanol i’r arfer.

Drwy’r gwasanaeth botwm coch ar Sky, gall gwylwyr ddewis fwynhau’r gêm yng nghwmni hwyliog cyflwynwyr C2 BBC Radio Cymru Magi Dodd, y digrifwr Daniel Glyn a seren rygbi merched Cymru Non Evans. Bydd modd gwrando ar eu sylwebaeth ar wefan BBC Radio Cymru hefyd.

“Y bwriad yw trio apelio at wylwyr sydd falle ddim yn ddilynwyr mawr o rygbi, ond sy’n mwynhau gwylio gemau mawr fel Cymru v Lloegr ac yn dymuno sylwebaeth ychydig yn wahanol,” meddai Magi Dodd, cyflwynydd C2.

“Dydw i na Daniel ddim yn ddilynwyr brwd o rygbi – ond rydyn ni wrth ein bodda â’r gêm. Mi fyddwn ni’n cynrychioli llais y gwylwyr sy’ ddim yn deall yr holl reolau technegol. Pob lwc i’n harbenigwraig Non Evans wrth geisio ein dysgu ni!”

Bydd cefnogwyr rygbi selog yn falch o glywed y bydd y tîm cyflwyno arferol ar brif wasanaeth S4C wrth i Gareth Roberts gael cwmni Huw Llywelyn Davies a Gwyn Jones yn y blwch sylwebu, Dot Davies ar yr ystlys a’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol Gareth Edwards, Derwyn Jones a Brynmor Williams yn y tîm dadansoddi.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?