S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn darlledu gêm bêl-droed ryngwladol Merched yn fyw ar y we

20 Hydref 2011

Fe fydd S4C yn darlledu gêm bêl-droed ryngwladol rhwng Merched Cymru a Merched Ffrainc yn fyw ar y we nos Nos Sadwrn, 22 Hydref.

Tîm cynhyrchu'r rhaglen bêl-droed Sgorio fydd yn cyflwyno’r gêm gyfan yn fyw o Barc y Scarlets, Llanelli, gyda’r gic gyntaf am 18:00.

Dyma’r tro cyntaf i S4C ddarlledu un o gemau rhyngwladol Merched Cymru yn fyw. Mae’r gêm yn torri tir newydd hefyd fel y gêm bêl-droed gyntaf i S4C ei darlledu yn fyw ar y we yn unig.

Fe fydd y gêm yn fyw ar safle Sgorio S4C sydd ar gael ar s4c.co.uk/sgorio. Y sylwebydd fydd Bryn Tomos a chwmni Rondo sy’n cynhyrchu’r rhaglen.

Mae’r gêm yn un bwysig yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaethau Ewrop Merched UEFA - a hynny

yn erbyn gwlad gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan Byd y Merched yr haf hwn.

Dyma fydd yr ail gêm bêl-droed fyw ar S4C ddydd Sadwrn gan y bydd y Sianel hefyd yn darlledu Bangor v Castell-nedd yn Uwch Gynghrair Cymru yn fyw am 15:00 y prynhawn.

Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi croesawu penderfyniad S4C i ddarlledu’r gêm.

Meddai Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Materion Cyhoeddus y Gymdeithas: “Mae hyn yn gyfle gwych i hyrwyddo gêm y merched yng Nghymru. Mi rydan ni yn torri tir newydd yma ac unwaith eto yn croesawu’r cydweithrediad sydd wedi bod rhyngddon ni fel corff chwaraeon ac S4C.”

Dywedodd Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, bod y Sianel yn falch iawn o gael rhoi llwyfan i bêl-droed ryngwladol y merched.

Meddai Geraint Rowlands: “Rydym yn falch iawn o’r cyfle i ddarlledu gêm bêl-droed ym mhencampwriaeth ryngwladol y merched. Mae’n adlewyrchu ymroddiad S4C i ddarlledu'r amrywiaeth fwya’ eang o bêl-droed yng Nghymru. Mae’r diddordeb yng ngêm y merched yn cynyddu trwy’r amser a bydd y darllediad yn sicr yn cael croeso gan wylwyr chwaraeon y Sianel.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?