S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu gêm Cwpan FA Wrecsam

02 Tachwedd 2011

Fe fydd S4C yn darlledu’r gêm rownd gyntaf Cwpan FA gyda Budweiser rhwng Cambridge United a Wrecsam yn fyw yn unig ar y Sianel.

Tîm y gyfres Sgorio fydd yn Stadiwm R Costings Abbey nos Wener, 11 Tachwedd ar gyfer y gêm gyfan, gyda’r rhaglen yn dechrau am 19:35 a’r gic gyntaf am 19:45.

Mae’r gêm hefyd yn cael ei dangos yn fyw ar wefan S4C – s4c.co.uk/sgorio – sydd ar gael ar-lein ledled y Deyrnas Unedig. Bydd isdeitlau Saesneg byw ar gael.

Mae S4C ar gael hefyd yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar Sky 134 a Freesat 120 ac yng Nghymru ar Freeview 4, Sky 104, Virgin 167 a Freesat 104.

Dyma’r trydydd tymor yn olynol i S4C dderbyn hawliau i ddarlledu gemau clybiau Cymru yng Nghwpan yr FA, gyda gemau Caerdydd ac Abertawe wedi cael eu darlledu yn y gorffennol.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Geraint Rowlands: “Mae hyn yn newyddion da ar gyfer dilynwyr pêl-droed ledled y DU. Mae hon yn un o’r gemau mawr yn rownd gyntaf y cwpan rhwng dau dîm sy’n chwarae pêl-droed da yng Nghyngres y Blue Square ar hyn o bryd. Mae gemau blaenorol yr FA ar S4C wedi denu cynulleidfaoedd da ac rwy’n disgwyl y bydd y gêm hon hefyd yn dal dychymyg ein gwylwyr.”

Mae Cambridge United a Wrecsam ymhlith ceffylau blaen y Blue Square ac felly mae hon ymhlith y gemau mawr yn rownd gynta’r Cwpan FA gyda Budweiser.

Mae gan Wrecsam draddodiad glew yn y Cwpan FA dros y blynyddoedd – pwy all anghofio’r fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Arsenal yng Nghae’r Ras yn 1992 pan sgoriodd Mickey Thomas y gôl wefreiddiol honno?

Mae’r tîm o ogledd ddwyrain Cymru ar hyn o bryd ar frig y Blue Square ac yn mynd o nerth i nerth o dan arweiniad y rheolwr newydd Andy Morrell.

Byddai ymgyrch dda yn y cwpan yn hwb fawr i glwb sydd yn y broses o gael ei roi dan awenau Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr.

Morgan Jones sy’n cyflwyno’r gêm yng nghwmni cyn gôl-geidwad Wrecsam a Chymru Dai Davies, gyda sylwebaeth o’r gêm gan Dylan Ebenezer a Malcolm Allen.

diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?