S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ennill Cystadleuaeth Carol S4C am y trydydd tro!

07 Rhagfyr 2011

 Mae tîm cyfansoddi dawnus yn dathlu ar ôl ennill Cystadleuaeth Carol S4C am y trydydd gwaith.

Y cyfansoddwyr adnabyddus Elfed Morgan Morris a Lowri Watcyn Roberts sydd wedi ennill Cystadleuaeth Carol S4C 2011 a chipio’r wobr o £1,000 am y garol ‘Llwybrau Cofio’.

Bydd y garol yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng nghyngerdd Carolau o Langollen ym Mhafiliwn Llangollen ar nos Sul 11 Rhagfyr.

Fe fydd uchafbwyntiau’r noson, a drefnir ar y cyd rhwng S4C a phapur newydd y Daily Post, yn cael ei darlledu ar S4C nos Iau, 22 Rhagfyr am 21:00.

Yn serennu yn y gyngerdd eleni mae’r tenor o Sir Fôn Gwyn Hughes Jones, y soprano Mari Wyn Lewis, côr Crescendo, y perfformiwr ifanc Cai Fôn Davies, Band Arian Northop, yr Ukuleighleighs, Alun Tan Lan, Ysgol Pen Barras a Chôr Meibion Rhos.

Elfed Morgan Morris, dirprwy brifathro yn Ysgol Llandygai, Bangor, a gyfansoddodd y dôn gyda Lowri Watcyn Roberts, pennaeth yr adran Gymraeg yn Ysgol Brynrefail Llanrug, yn darparu’r geiriau. Mae’r ddau yma gyda'i gilydd wedi ennill y gystadleuaeth ddwywaith yn y gorffennol.

Mae ‘Llwybrau Cofio’ yn garol draddodiadol ei harddull ond gyda naws bositif i godi’r galon.

Dywedodd un o feirniaid y gystadleuaeth, Hefin Owen o gwmni Rondo sy’n cynhyrchu’r rhaglen Carolau o Langollen i S4C. “Mae’r garol yn hynod o swynol ac rwy’n siŵr y bydd hi’n boblogaidd. Mae hi’n gân y bydd dyn yn ei chofio ar ôl ei chlywed unwaith.

“Gall gwylwyr S4C edrych ymlaen at glywed y garol newydd sbon am y tro cyntaf fel rhan o’r rhaglen Carolau o Langollen ar 22 Rhagfyr.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?