S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ap newydd i’r Rapiwr sy’n dipyn o Arwr!

16 Rhagfyr 2011

    Yn dilyn llwyddiant ap cyntaf Rapsgaliwn – Apsgaliwn, mae seren gwasanaeth Cyw S4C a ‘rapiwr gorau’r byd’ wedi rhyddhau ap newydd sbon sydd am ddim i’w lawrlwytho i’r iPad yn arbennig ar gyfer y Nadolig.

Mae’r ap Raplyfr 2 “O Ble mae coed Nadolig yn Dod?”, yn stori liwgar sy’n llawn odl, ac yn cynnwys gemau yn rhan o’r stori. Wrth iddo edrych yn ei raplyfr am yr ateb i’w gwestiwn, mae Rapsgaliwn yn mynd gydai’i ffrindiau bach aur i’r goedwig oer. Yno, maent yn cyfarfod rhywun arbennig iawn, sydd â barf laes a siwt goch.

Mae’r ap bellach ar gael am ddim o iTunes ar gyfer iPad. Mae hefyd ar gael i ddefnyddio ar declynnau tablet Android.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C: “Mae S4C ar flaen y gad ym myd technoleg i blant. Mae’r ddyfais ddiweddara’ hon yn yr iaith Gymraeg i blant meithrin a’u rhieni yn siŵr o fod yn boblogaidd iawn dros y Nadolig.”

Mae’r ap yn ffrwyth llafur i brosiect ar y cyd rhwng gwasg y Lolfa, a chwmni Cube Interactive, cwmni o Gaerdydd sydd wedi creu’r lluniau ar gyfer gwefan Rapsgaliwn. Awdur y stori yw Beca Evans o gwmni Fflic, y cwmni sy’n cynhyrchu rhaglen Rapsgaliwn.

Mae ap Cyw, a lansiwyd fis Chwefror hefyd wedi’i ddiweddaru gyda mwy o gemau, storiau a chlipiau fideo. Mae’r ap, sydd ar gael am ddim ar ddyfeisiau symudol yn cynnwys straeon, caneuon a gemau lle gallwch fwynhau byd lliwgar Cyw, sy’n ddwyieithog ac yn gyfle i blant ac oedolion ddysgu a mwynhau yng nghwmi ei gilydd.

Diwedd

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?