S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gêm fawr Gavin yn fyw ar S4C

21 Rhagfyr 2011

 Bydd Gavin Henson yn dychwelyd i’r cae rygbi yn y gêm fawr rhwng y Gleision a’r Dreigiau nos Wener - gornest a ddangosir yn fyw ar S4C gan gychwyn am 7.15pm.

Bydd Y Clwb Rygbi ar S4C yn darlledu’r gêm gyflawn yng nghynghrair y RaboDirect PRO12 o Stadiwm Dinas Caerdydd.

Nid yw Henson wedi chwarae ers torri ei arddwrn yng ngêm Cymru yn erbyn Lloegr - gêm i baratoi am Gwpan y Byd - ar 13 Awst. Ar ôl ymuno â’r Gleision yn ddiweddar, mae wedi mynegi ei uchelgais i chwarae i Gymru unwaith eto drwy wneud ei farc i’w dîm newydd.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?