S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Steffan Rhodri yw seren cegin Dudley Newbery

30 Rhagfyr 2011

 Seren y gyfres Gavin a Stacey, Steffan Rhodri sydd wedi ennill cystadleuaeth goginio S4C Dudley: Pryd o Sêr.

Yn nosweithiol rhwng 27 a 30 Rhagfyr, bu’r gyfres Dudley: Pryd o Sêr yn rhoi her a hanner i griw o selebs fyddai’n gwneud i’r cogydd mwyaf profiadol grynu yn ei ffedog. Gwyliwch y cyfan eto ar Clic – s4c.co.uk/clic .

Daeth Steffan i’r brig gan ddisgleirio yn fwy llachar na’i gyd sêr sef y model a Miss Cymru 2010, Courtenay Hamilton; Siân Lloyd, y darlledwr newyddion; yr actores Ffion Dafis; y cyflwynydd Rhodri Ogwen Williams; Hywel Davies y joci; y cyn AC Eleanor Burnham; ac un o fechgyn Only Men Aloud, Wyn Davies.

“Ro’n i’n meddwl bydde fy mhrofiad i o weithio mewn cegin wedi cyfri yn fy erbyn i gyda’r beirniaid,” meddai Steffan fu’n arfer gweithio i gwmni arlwyo rhwng gwaith actio. “Ro’n i wedi disgwyl iddyn nhw wobrwyo y person oedd wedi gwella fwyaf yn ystod y profiad. Ond roeddwn i’n falch iawn o dderbyn y wobr!”

Teitl Pryd o Sêr yw’r ail wobr i Steffan ei ennill ar S4C. Ef hefyd oedd y marchogwr gorau yn y gyfres Y 7 Magnifico a Matthew Rhys a ddarlledwyd ym mis Rhagfyr 2008, ble roedd rhaid i grŵp o sêr ddysgu sgiliau cowboi.

“Mae’r llun ges i fel gwobr gan Pryd o Sêr yn hongian ar y wal wrth ochr y spurs ges i am ennill Y 7 Magnifico,” meddai Steffan. “Roedd y profiad yn anhygoel ac mi wnes i ddysgu llawer. Mi wnes i wir fwynhau bod yn gapten ar fy nhîm. Roedd cwmni’r grŵp mor dda ac fe gawson ni lot fawr o hwyl!”

Er bod ei dîm ef wedi colli’r sialens fawr olaf yn y rownd derfynol, cafodd Steffan ei wobrwyo am ei berfformiad yn y gyfres gyfan.

“Mae gwobr Pryd o Sêr yn cael ei roi i’r cogydd sydd wedi serennu drwy gydol y gystadleuaeth,” esboniai’r beirniad a chyflwynydd y gyfres Dudley Newbery. “Roedd Steffan yn arweinydd cryf a roedd e’n drefnus iawn yn y gegin. Fe weithiodd e’n galed gan wthio ei hun i baratoi bwydydd oedd y tu hwnt i’w ffiniau. Mae’n amlwg fod ganddo ddawn ac roedd yn barod iawn i helpu aelodau ei dîm.”

Yn ddiweddar cafodd Steffan ganmoliaeth gan adolygwyr am ei rôl yn y ddrama The Kitchen Sink yn y Bush Theatre, Llundain. Mae ar hyn o bryd yn ymarfer ar gyfer cynhyrchiad o ddrama gomedi Alan Ayckbourn ‘Absent Friends’ sydd yn dechrau yn The Harold Pinter Theatre yn y West End ym mis Chwefror.

Mae’r cast yn cynnwys enwau adnabyddus fel Kaira Tointon gynt o EastEnders, Reece Shearsmith o’r gyfres gomedi The League of Gentlemen, Katherine Parkinson o raglen The IT Crowd ac Elizabeth Berrington sydd wedi serennu mewn dramâu teledu megis Waterloo Road ac The Bill.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?