S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Denzil yn ffarwelio â Phobl y Cwm

05 Ionawr 2012

 Ar Wedi 7 heno (nos Iau 5 Ionawr am 19:00) bydd yr actor Gwyn Elfyn yn trafod diwedd cyfnod i gyfres ddrama Pobol y Cwm, wrth i’r cymeriad Denzil Rees ffarwelio â Chwmderi.

Mae Gwyn wedi chwarae rhan Denzil ers dros 27 o flynyddoedd a bydd y cymeriad hoffus yn ffarwelio yn ystod mis Ionawr, er mae union fanylion y stori yn gyfrinach am y tro.

Yn ystod y mis bydd salwch yn lledu yng Nghwmderi gan daro nifer o’r trigolion yn wael. Mae ofn yn cadw pawb yn eu tai, ac mae’r panig yn lledu pan fo Gwilym o Deri Deithio yn cael ei ganfod yn farw ar lawr y swyddfa dacsi.

Yn ogystal â’r salwch, mae ymddygiad diweddar Sioned wedi bod yn achosi poen calon i Denzil. Mae perthynas y tad â’i ferch ar chwâl wedi iddo ddarganfod ei bod wedi ceisio gwenwyno Anti Marian mewn ymgais i gael ei chrafangau ar ragor o’i harian.

"Mae Sioned wedi mynd yn rhy bell y tro yma, does dim troi nôl iddyn nhw," meddai Gwyn Elfyn.

"Dwi’n credu bod Denzil wedi cael llond bol. Mae Sioned wedi cael ei ffordd ei hun yn llawer rhy aml am fod ei rhieni wedi bod yn rhy llac gyda hi am iddi golli ei brawd yn ifanc iawn," meddai Gwyn, sydd yn dweud mai’r stori pan fu efell Sioned, John, farw yn fabi oedd y stori fwyaf dirdynnol iddo ei hactio.

Wedi blynyddoedd o fod yn gefn i eraill, efallai mai nawr yw’r amser i Denzil roi ei hun yn gyntaf. Oes cyfle o’r diwedd am hapusrwydd gyda Nancy a hynny yn groes i ddymuniadau ei ferch?

"Mae Denzil yn difaru peidio rhoi stop ar ymddygiad Sioned yn gynt, ond does dim euogrwydd ganddo am roi ei hun yn gyntaf am unwaith. Pwy a ŵyr beth sydd rownd y gornel?"

Mae cynhyrchydd y gyfres, Ynyr Williams, yn gwerthfawrogi cyfraniad Gwyn i Pobol y Cwm.

“Mae pob cyfres angen storiau mawr, ac mae ymadawiad Denzil yn un o’r rhai mwyaf erioed yn hanes y gyfres. Wedi bron 28 mlynedd mor odidog i’r gyfres mae’n amser trist ac mae’n ddiwedd cyfnod, ond hefyd mae’n gychwyn cyfnod newydd.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?