S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dangos ffilmiau o deulu Lloyd George am y tro cyntaf

06 Ionawr 2012

Ar nos Sul, 8 Ionawr am 20:30, bydd S4C yn dangos ffilmiau cartref o Megan Lloyd George a’i thad David Lloyd George sydd erioed wedi cael eu dangos yn gyhoeddus o’r blaen.

Ffion Hague sy’n cyflwyno’r gyfres newydd Mamwlad, sy’n adrodd hanes menywod sydd wedi gadael eu marc ar hanes Cymru.

Bydd y gyfres yn dechrau ar nos Sul 8 Ionawr am 20:30 gyda stori Megan Lloyd George – Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Cymru.

Dywedodd y cynhyrchydd Catrin Evans am y cyffro o dderbyn y ffilmiau prin gan nai Megan Bengy Carey Evans.

"Roeddwn i’n teimlo pwysau’r cyfrifoldeb i gadw’r ffilmiau’n ddiogel - i’r graddau 'mod i bron yn meddwl y dylwn i gysgu gyda nhw o dan y glustog tan i mi fedru trosglwyddo nhw’n saff i’r Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn Aberystwyth,” meddai Catrin.

"Maen nhw’n ffilmiau hynod ddiddorol wedi eu saethu rhwng Ugeiniau a Chwedegau’r ganrif ddiwetha' - rhai'n dangos Megan yn fenyw ifanc gyda’i thad, ac eraill yn dangos Megan yn ei chanol oed yn ei chartref yng Nghricieth. Mae’n archif bersonol ddiddorol a phwysig."

Mae Ffion Hague yn arbenigwr ar hanes David Lloyd George, ond beth fydd y rhaglen yn ddysgu i ni am ei ferch?

"Mae ei henw hi’n gyfarwydd iawn, wrth gwrs, ond gan amlaf, mae Megan yn cael ei thrafod ond yng nghyd-destun bywyd a gyrfa ei thad. Mae ein diddordeb ni ynddi yn wahanol," meddai Ffion.

"Sut deimlad oedd hi tybed i gerdded mewn i’r senedd yn un o 16 merch yn unig, a’r unig ferch o Gymru? Agorodd hi’r drws i ferched eraill i’w dilyn? Ac a lwyddodd hi erioed i ddianc o gysgod ei thad?"

Yn ystod y rhaglen cawn weld sut wnaeth Megan etifeddu rhai o nodweddion ei thad, esboniai Catrin Evans.

"Fe wnaethon ni ddarganfod ei bod hi’n ddarlledwr dawnus. Roedd hi’n gyfrannwr cyson a phoblogaidd i raglenni radio gwleidyddiaeth y BBC o'r 1920au hwyr. Roedd ganddi’r gallu i siarad â gwrandawyr ac yn enwedig â menywod ifanc oedd yn uniaethu â hi, mewn ffordd agos ac ystyrlon. Roedd hi hefyd yn areithiwr cyhoeddus grymus, rhywbeth yn sicr y gwnaeth hi etifeddu gan ei thad," meddai Catrin.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?