S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffigurau gwylio S4C wedi dangos cynnydd yn 2011

09 Ionawr 2012

Mae nifer gwylwyr S4C wedi cynyddu dros y flwyddyn 2011 yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Sianel heddiw.

O ran cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol S4C yng Nghymru yn 2011 gwelwyd cynnydd o 7,000 – i fyny o 467,000 yn 2010 i 474,000. Dros y Deyrnas Unedig, mae cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol y Sianel i fyny 2,000 ar y flwyddyn – o 616,000 yn 2010 i 618,000 yn 2011.

Bu cynnydd sylweddol hefyd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg fu’n gwylio S4C yn 2011. Y cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol yn ystod y flwyddyn oedd 223,000 o wylwyr yng Nghymru – 26,000 yn uwch na 2010.

Yn yr oriau brig, gwelwyd cynnydd o 1,000 ar y ffigwr yn 2010 – i fyny o 28,000 i 29,000.

Wrth groesawu’r ffigurau, dywedodd Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C, “Mae’r canlyniadau hyn yn galonogol iawn ac yn profi bod mwy a mwy o wylwyr yn cael eu plesio gan yr amrywiaeth eang o raglenni sydd ar gael ar S4C. Ein nod, hyd yn oed mewn cyfnod economaidd ariannol fel yr un sy’n bodoli ar hyn o bryd, yw sicrhau bod ein harlwy ar y sgrin yn un o safon uchel ac yn un sy’n bodloni nifer cynyddol o wylwyr yng Nghymru yn bennaf ond hefyd yng ngweddill y Deyrnas Unedig.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?