S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cadarnhad o ddyddiad gêm Wrecsam

12 Ionawr 2012

Bydd gêm Wrecsam v Brighton yn nhrydedd rownd Cwpan FA yn cael ei darlledu yn fyw ac yn ecsgliwsif ar S4C ar nos Fawrth 17 Ionawr.

Bydd y gêm ar y Cae Ras yn cael ei darlledu gan dîm profiadol Sgorio gyda’r rhaglen yn dechrau am 19:30.

Oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth S4C, bu dryswch ynghylch dyddiad gêm Wrecsam v Brighton yn nhrydedd rownd Cwpan FA.

Mae’r FA bellach wedi cadarnhau mai ar nos Fawrth 17 Ionawr y bydd y gêm yn cael ei chwarae, gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Bydd isdeitlau Saesneg ar gael a bydd y gêm hefyd yn cael ei darlledu’n fyw ar wefan S4C: s4c.co.uk.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gwasanaeth ar-lein S4C ar gael drwy Brydain.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?