S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Diweddglo dramatig Denzil

20 Ionawr 2012

Ar S4C neithiwr (nos Iau 19 Ionawr) gwelwyd munudau olaf un o gymeriadau mwyaf poblogaidd Pobol y Cwm.

Mewn golygfa ddirdynnol, gwelwyd Denzil Rees, a bortreadir gan Gwyn Elfyn, yn cwympo’n farw ym mreichiau ei ferch Sioned yn ystod ffrae ddramatig ar y stryd.

Roedd y tad a’r ferch wedi dweud geiriau cas iawn wrth ei gilydd yn ystod y ffrae olaf honno, ac nawr mae’n rhaid i Sioned fyw gyda’r ffaith na chai hi fyth faddeuant gan ei thad.

"Roedd e’n dweud nad oedd e ishe ei gweld hi eto a bod ganddo gywilydd ohoni. Pethe na fyddai unrhyw un eisiau clywed eu tad yn eu dweud," meddai Emily Tucker sy’n chwarae Sioned.

"Er bod Denzil wedi dweud y byddai fe byth yn maddau iddi am wenwyno Anti Marian, dwi’n credu bod Sioned yn obeithiol y bydden nhw'n cymodi yn y pendraw.

"Ond chafodd hi ddim maddeuant ac mae’n rhaid iddi fyw gyda hynny am byth. Dwi’n credu bydd yr euogrwydd yn ei bwyta hi’n fyw."

Yn yr wythnosau nesaf, byddwn yn gweld Sioned yn ceisio dod i delerau gyda’i galar a’r euogrwydd, ond sut mae’r actores yn teimlo wrth i un o’i chyd-weithiwr adael y gyfres yn enwedig un y bu hi’n gweithio mor agos ag o?

"Dwi yn colli Gwyn, a dyw pethe ddim yr un peth ar set hebddo fe," meddai Emily am Gwyn Elfyn fu’n aelod o gast Pobol y Cwm am dros 27 mlynedd.

"Roedd hi’n drist iawn i ddweud hwyl fawr. Pan fyddwch chi’n gweithio gyda’ch gilydd fel teulu, yna rydych chi bron yn dod yn deulu. Rwy’n gweld Gwyn a Sera (Cracroft), sy'n chwarae rhan Eileen, mam Sioned, yn fwy na fy rhieni yn hun!"

Mewn pennod awr o hyd ar 26 Ionawr (20:00, S4C) bydd angladd Denzil yn gyfle i drigolion Cwmderi dalu teyrnged gyda gwên i’w cyfaill.

Bydd rhai o wynebau cyfarwydd y gorffennol yn dychwelyd i’r Cwm ar gyfer yr angladd - yn eu plith mae Derek, Megan a chyn-wraig Denzil, Maureen.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?