S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gêm Fawr Scarlets yn Ewrop yn Fyw ar S4C

26 Ionawr 2012

Fe fydd y gêm fawr rhwng Brive a Scarlets yn rownd yr wyth olaf yn y Cwpan Amlin yn fyw ar S4C nos Sul, 8 Ebrill (cic gyntaf, 19.15).

Ar benwythnos mawr i glybiau rygbi Ewrop, bydd S4C hefyd yn dangos uchafbwyntiau’r gêm rhwng Leinster a Gleision yn rownd wyth olaf y Cwpan Heineken nos Sadwrn, 7 Ebrill.

Meddai Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu Dros dro S4C; “Mae hyn yn newyddion da i gefnogwyr rygbi yng Nghymru. Bydd yn gyfle pwysig i wylio’r gêm gan mai gêm oddi cartref yw hi yn Ffrainc. Rydym yn edrych ymlaen at benwythnos cyffrous o rygbi ar S4C ddechrau Ebrill.”

Sunset+Vine Cymru, un o gwmnïau cynhyrchwyr o Lanelli, Tinopolis, fydd yn cynhyrchu’r gêm fyw yn y Cwpan Amlin.

Sunset+Vine Cymru a Sports Media Services o Benybont ar Ogwr sy’n cydgynhyrchu rhaglenni’r Cwpan Heineken ar y Sianel.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?