S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dyddiad cau cystadleuaeth Cân i Gymru 2012 yn nesáu

30 Rhagfyr 2011

  Mae S4C yn annog cyfansoddwyr i anfon eu ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru 2012 cyn y dyddiad cau Ddydd Llun, 9 Ionawr 2012.

Mae’r cynhyrchwyr Avanti eisoes wedi cael ymateb da am y gystadleuaeth a fydd yn cael ei darlledu ar S4C ar 4 Mawrth 2012.

Yr abwyd yw gwobr o £7,500 a’r anrhydedd o gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd flwyddyn nesaf.

Mae Avanti yn croesawu ceisiadau gan gyfansoddwyr ar ffurf CD, casét neu .mp3, ynghyd â ffurflen gais sydd ar gael gyda holl fanylion y gystadleuaeth ar wefan Cân i Gymru: s4c.co.uk/canigymru. Mae’n rhaid i gystadleuwyr fod dros 16 oed.

Bydd wyth cân yn cael eu dewis ar restr fer gan reithgor o arbenigwyr. Bydd yr wyth cân yn cystadlu mewn rhaglen fyw o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 4 Mawrth, 2012.

Yn ogystal â’r brif wobr, mae hefyd gwobr o £2,000 ar gyfer yr ail safle, a £1,000 i’r drydedd.

Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Avanti ar 02920 838 149 neu canigymru2012@avantimedia.tv

Y cerddorion Steve Balsamo ac Ynyr Roberts oedd yn fuddugol yn 2011 gyda’r gân Rhywun yn Rhywle. Y gantores o Fochdre, Tesni Jones, oedd yn perfformio’r gân fuddugol ar y noson.

Yn dilyn llwyddiant Rhywun yn Rhywle yn Cân i Gymru, profodd y gân fuddugoliaeth bellach yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon gan gipio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?