S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Trystan yn plesio panel Llais i Gymru

08 Chwefror 2012

Mae’r perfformiwr clasurol ifanc Trystan Llŷr Griffiths o Glunderwen, Sir Benfro yn edrych ymlaen at ddatblygu ei yrfa gerddorol wrth iddo dderbyn cefnogaeth gan un o gwmnïau recordio mwya’r byd, Decca Records.

Fe gyrhaeddodd Trystan y rhestr fer yn y gyfres Llais i Gymru ar S4C, ynghyd â Lisa Angharad, Rhiannon Herridge a James Williams. Aeth y pedwar ati i geisio plesio’r panel a'r arbenigwyr o Decca.

Er nad yw Trystan wedi sicrhau cytundeb, o’r chwe chant o ymgeiswyr gwreiddiol, Trystan sydd wedi cael ei wahodd i gwrdd â phenaethiaid y cwmni recordiau i drafod ei ddyfodol.

"Dwi ddim yn hollol siŵr beth sydd gan Decca mewn golwg ynghylch fy ngyrfa. Dwi am gwrdd â nhw cyn gynted ag sy’n bosib," meddai Trystan, a raddiodd mewn Cerdd a Chyfryngau ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant. Mae nawr yn astudio am radd Meistr mewn Canu yn yr Academi Frenhinol yn Llundain.

"Dwi’n hyderus eu bod nhw am fod yn asgwrn cefn i mi tra fy mod yn datblygu fy ngyrfa ganu, felly mae hi’n adeg gyffrous iawn i mi.

"Ro’n i wrth fy modd gyda’r newyddion gan Decca, a dwi ddim wedi siomi o gwbl oherwydd fy mod i heb gael cytundeb recordio. Doedd dim cadarnhad bod un ohonom ni i gael cytundeb - does neb yn medru derbyn un dros nos!

"Mae’n gymaint o ganmoliaeth fod cwmni mor llwyddiannus â Decca yn dangos diddordeb yndda i. Fe fydd hi’n broses hir er mwyn iddyn nhw ddod i fy nabod yn well.

"Dwi wedi dysgu ambell i beth newydd ar ôl bod ar Llais i Gymru - dwi 'di dysgu sut i ddisgyblu fy hun er mwyn ymdopi gyda phopeth. Dwi’n falch fy mod i wedi cael cyfle a dwi ddim yn bwriadu parhau gyda’m swydd ran-amser adref yn ffitio drysau garej - mae’r broses wedi rhoi’r hyder i mi geisio am yrfa canu yn ddifrifol," esbonia Trystan, a enillodd Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011.

Ar banel Llais i Gymru roedd yr asiant Sioned James, Rheolwr Gyfarwyddwr Mark Wilkinson a Phennaeth A&R Tom Lewis i gwmni Decca.

Yn ôl Mark a Tom bu’r broses yn llwyddiant diamheuol ac roedd canmoliaeth i’r pedwar. Ond, Trystan ddenodd y sylw mwyaf gyda’i lais cryf a’i bersonoliaeth gynnes a delwedd hyfryd. Roedd y panel yn gytûn fod y cyfuniad yma yn golygu fod ganddo botensial am yrfa ddisglair ar lwyfan ac mewn stiwdio recordio.

"Rydyn ni’n ymfalchïo yn Llais i Gymru ac wedi mwynhau’r toreth o dalent o Gymru, sydd yn Wlad y Gân i gymaint o bobl," meddai Mark Wilkinson, Rheolwr Gyfarwyddwr Decca.

"Mae Trystan yn berfformiwr cyffrous, ac rydyn yn awyddus i osod platfform a chynsail cadarn iddo barhau i ddatblygu."

Bu’r ymgeiswyr yn cymryd rhan mewn amryw o dasgau a gweithgareddau trwy gydol y gyfres, megis sesiwn leisiol gyda’r athro canu Ian Baar, sesiwn lwyfannu gyda seren Strictly Come Dancing Camilla Dallerup, a pherfformiad cyhoeddus ochr yn ochr ag enillydd X Factor, Joe McElderry.

Fe ddaeth y gyfres i uchafbwynt pan berfformiodd y pedwar ar lwyfan Under the Bridge yn ardal Chelsea, Llundain, o flaen cynulleidfa ddethol yn ogystal â’r panel.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?