S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Awdurdod S4C yn croesawu Ymgynghoriad Cyhoeddus

08 Chwefror 2012

      Mae Awdurdod S4C wedi croesawu'r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y cynigion i ddiwygio trefniadau llywodraethu'r Sianel.

Mae'r Ymgynghoriad yn cael ei gynnal gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ym mis Hydref 2010 y byddai'r cyswllt rhwng ariannu S4C a'r Mynegai Prisiau Manwerthu yn dod i ben. O ganlyniad, bydd cyllid S4C yn dod yn bennaf o ffi'r drwydded fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC o 1 Ebrill 2013.

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, "Rydym yn croesawu'r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar elfennau o'r bartneriaeth rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC. Fel Awdurdod, fe wnaethom argymell bod ymgynghoriad o'r fath yn digwydd ac rydym am weld cymaint â phosib o fudiadau ac unigolion yn ymateb."

Y dyddiad cau i gyflwyno ymatebion yw dydd Gwener 4 Mai 2012.

Gellir darllen dogfennau'r ymgynghoriad ar safle we'r DCMS:

http://www.culture.gov.uk/consultations/8821.aspx

Anfonwch ymatebion ar ffurf llythyr neu neges e-bost at:

S4C Governance ConsultationPublic Service Broadcasting Team4th FloorDepartment for Culture Media & Sport (DCMS)2-4 Cockspur Street LlundainSW1Y 5DH

Ffôn: 020 7211 6014 Ffacs: 020 7211 6339

E-bost: s4cgovernance@culture.gsi.gov.uk

 

 

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?