S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiad i Wil a Cêt yng Ngwobrau RTS

28 Chwefror 2012

Mae un o raglenni comedi S4C Wil a Cêt wedi ei henwebu yng Ngwobrau Rhaglenni Y Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS).

Mae’r enwebiad yn y categori Rhaglen Orau’r Gwledydd a’r Rhanbarthau a bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn Llundain ar 20 Mawrth.

Dyma’r ail enwebiad i’r rhaglen ei derbyn eleni. Mae hi hefyd wedi ei henwebu yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn Derry, Gogledd Iwerddon ym mis Ebrill.

Dywedodd Dylan Huws o Gwmni Da, cyd-gynhyrchydd Wil a Cêt gyda’r digrifwr Tudur Owen, “Rydym ni wrth ein boddau gyda’r enwebiad. Cawsom ryddid creadigol gan S4C i wneud y rhaglen roedden ni wir yn credu ynddi ac mae hynny wedi talu ar ei ganfed gydag enwebiad yn y gwobrau Y Gymdeithas Deledu Frenhinol a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.”

Darlledwyd y rhaglen am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2011. Rhaglen ddogfen ffug yw Wil a Cêt sy’n dilyn tri chwpwl o Sir Fôn wrth iddyn nhw gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill tocynnau ar gyfer digwyddiad i ddathlu priodas Tywysog William a Catherine Middleton.

“Er mwyn cadw naturioldeb y rhaglen, defnyddiwyd cast o ‘bobl gyffredin’ ar gyfer y prif rannau ac roedd llawer o’r sgript wedi ei fyrfyfyrio. Cafodd y rhaglen dderbyniad anhygoel gan y gwylwyr gyda rhai yn credu mai rhaglen ddogfen wir oedd y cynhyrchiad!” meddai Dylan Huws.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu Dros Dro S4C, Geraint Rowlands, “Llongyfarchiadau i’r tîm yn Cwmni Da am yr enwebiad. Fe lwyddodd Wil a Cêt i ddal dychymyg y gwylwyr a bu llawer iawn o drafod amdani ar wefannau rhyngweithiol fel Twitter a Facebook.”

Mae cyfle i fwynhau cynhyrchiad arall gan y tîm a greodd Wil a Cêt am 9.00pm ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae’r ddogfen Dim Byd/Mwy: Jac y Ddafad Wyllt yn adrodd hanes Jac Marmalêd Morgan o Benygroes, un o arwyr ‘coll’ y Gemau Olympaidd a wnaeth gystadlu yn y ras 10,000 medr yn Helsinki, 1952.

Gyda chymorth clipiau archif, bydd teulu Jac yn adrodd ei stori. Bydd hefyd cyfraniad gan aelodau o gymuned Penygroes, a bydd hanesydd uchel ei barch ac athletwr a enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo 1964 hefyd yn rhannu atgofion.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?