S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

“Silver Surfers” Dechrau Canu yn bwrw eu pleidlais

27 Chwefror 2012

 Mae’r bleidlais i ddarganfod Emyn i Gymru 2012 wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Yn ystod mis Chwefror mae’r gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol wedi bod yn gofyn i wylwyr bleidleisio am eu hoff emyn, o restr fer o ugain wedi eu dewis gan banel o arbenigwyr. Mae’r bleidlais bellach wedi cau, a’r cyfri wedi dechrau.

Yn ôl y cwmni cynhyrchu Avanti, sy’n gyfrifol am y gyfres, mae nifer y pleidleisiau wedi bod yn uchel iawn gyda’r cardiau pleidleisio a ddosbarthwyd ym mhob cwr o Gymru yn dychwelyd i swyddfa’r cwmni yn y post yn ddyddiol.

Ond, o ystyried poblogrwydd y gyfres ymysg gwylwyr hŷn y Sianel, roedd yn syndod i’r tîm faint wnaeth ddewis bwrw eu pleidleisio ar y wefan.

Dywedodd cynhyrchydd y gyfres Dafydd Parri, “Mae'n ymddangos bod yna silver surfers go iawn yma yng Nghymru o ystyried y nifer sydd wedi bod yn ymweld â gwefan Dechrau Canu Dechrau Canmol er mwyn bwrw eu pleidlais.”

Ond, er holi, nid yw Dafydd yn fodlon datgelu pa emyn sydd wedi dod i’r brig.

“Bydd angen i bobl ddod i’r gymanfa ganu arbennig ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid os ydyn nhw am ddarganfod o flaen llaw pa un yw Emyn i Gymru 2012.

“Mae’r gymanfa’n cael ei chynnal ar nos Wener 2 Mawrth gan ddechrau am 7.00 yr hwyr, a bydd y cyfan yn cael ei recordio ar gyfer rhaglen arbennig,” meddai Dafydd.

Yn y gymanfa, sydd o dan arweiniad Alwyn Humphreys, bydd y 12 emyn mwyaf poblogaidd yn cael eu canu yn ôl trefn y bleidlais gan arwain at yr un a ddaeth i’r brig.

Mae tocynnau yn rhad ac am ddim. Cysylltwch ag Avanti ar 02920 838 137 neu ewch i’r wefan s4c.co.uk/dechraucanu i archebu eich sedd.

Bydd y rhifyn arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol i’w gweld ar S4C ar nos Sul 11 Mawrth am 8.00pm.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?