S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

29 Chwefror 2012

 Bydd S4C yn nodi Dydd Gŵyl Dewi gydag amserlen newydd a diwrnod o ddathlu sy’n cynnwys noson o adloniant, cerddoriaeth, drama a hiwmor.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod yw lansio dwy sioe gylchgrawn ddyddiol newydd Prynhawn Da yn y prynhawn a Heno gyda’r nos.

Am 7.00 o’r gloch y nos, bydd y cyflwynwyr Rhodri Ogwen Williams ac Emma Walford yn croesawu gwylwyr i’r rhaglen gylchgrawn newydd Heno. Bydd y rhaglen yn llawn straeon diddorol am bobl o Gymru a thu hwnt ac yn cynnwys gwesteion yn y stiwdio fydd yn trafod pob math o bynciau.

Yn y sioe gyntaf, bydd Rhodri yn dangos i’r cyflwynydd a’r hanesydd brwd Dewi Prysor sut i baratoi pryd o fwyd traddodiadol Cymreig a bydd Courtenay Hamilton, Miss Cymru 2010, yn siarad am y fraint o gynrychioli ei gwlad ac o ganu yn y cyngerdd er cof am Gary Speed .

Rhodri ac Emma yw dau aelod o'r tîm cyflwyno sydd hefyd yn cynnwys Rhodri Owen a Mari Grug. Bydd Heno yn darlledu’n fyw o stiwdio’r cwmni cynhyrchu Tinopolis yn Llanelli bob dydd Llun i ddydd Iau.

Yn gynharach yn y dydd, am 1.00 y prynhawn, bydd y rhaglen gylchgrawn newydd Prynhawn Da yn darlledu am y tro cyntaf gydag Angharad Mair, Siân Thomas a Rhodri Ogwen Williams yn cymryd eu tro i groesawu gwylwyr i’r sioe ddwy awr a fydd yn cynnwys cymysgedd o eitemau byw a rhaglenni archif S4C.

Bydd y sioe gyntaf yn dathlu 65 mlynedd ers agor ysgol gynradd Gymraeg Llanelli, Ysgol Dewi Sant ac eitem ffasiwn gyda’r arbenigwr Huw Rees yn cynghori pobl sut i wisgo'r brethyn traddodiadol Cymreig.

Mae’r gantores, actores, bardd, awdur a’r cyflwynydd Caryl Parry Jones yn un o’r perfformwyr mwyaf talentog ac uchel ei pharch yng Nghymru, felly mae'n briodol bod Dydd Gŵyl Dewi yn cynnwys arddangosfa arbennig o gerddoriaeth a chwerthin gan y darlledwr aml-dalentog yn y gyfres newydd Noson yng Nghwmni… am 8.25pm.

Yn dilyn Noson yng Nghwmni..., cawn glywed hanes Jac y Ddafad Wyllt, un o arwyr ‘coll’ athletau Cymreig - stori anhygoel sy'n addas iawn ar gyfer y flwyddyn Olympaidd.

Fel rhan o wythnos Dewi Sant, bydd S4C hefyd yn lansio rhaglen newydd ar nos Wener, Pen8nos. Eleri Siôn a Gethin Evans sy’n cyflwyno'r rhaglen adloniant llawn hwyl a gemau yn y stiwdio, ac allan yn ein cymunedau lle bydd Elin Fflur a Llinos Lee yn cyflwyno o leoliad gwahanol bob wythnos. Yn rhan o’r rhaglen hefyd mae’r cwis poblogaidd Jacpot.

Cyfres arall newydd yw'r rhaglen nos Sul Sam ar y Sgrin sy’n bwrw golwg yn ôl ar yr wythnos a fu, ac ar yr wythnos i ddod ar S4C trwy lygaid y cyflwynydd Aled Samuel.

Yr wythnos hon hefyd mae’r gystadleuaeth flynyddol Cân i Gymru, ar ddydd Sul 4 Mawrth, pan fydd Elin Fflur a Dafydd Du yn cyflwyno wyth cân yn fyw o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid wrth i wyth o gyfansoddwyr gystadlu am y fraint o gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd.

Bydd Dydd Gŵyl Dewi yn llwyfan hefyd ar gyfer cyfres newydd o ffilmiau byrion o’r enw Calon. Ychydig cyn 7.00 yr hwyr bydd ffilmiau byr, trawiadol tri munud o hyd yn edrych ar bob agwedd o fywyd yng Nghymru. Mae'n dechrau heno gyda ffilm am yr hyfforddwr a’r chwaraewr rygbi gwych Clive Rowlands.

Meddai Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu Dros Dro S4C: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio ein hamserlen newydd gyffrous a deinamig, a pha ddiwrnod gwell i ddechrau o’r newydd nag ar Ddydd Gŵyl Dewi. Rydym yn credu y bydd y gymysgedd o adloniant, sgwrs a newyddion yn y prynhawn a gyda'r nos yn taro tant gyda gwylwyr. Rydym ni yn S4C yn barod i ddechrau ar daith gyffrous newydd gyda'n cynulleidfa."

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?